18/09/2007 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Medi 2007 i’w hateb ar 18 Medi 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i ddatblygu rôl y sector gwirfoddol o ran darparu gofal iechyd. OAQ(3)0207(FM) 2. Carl Sargeant (Alyn a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau iechyd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer pobl Alyn a Glannau Dyfrdwy.  OAQ(3)0221(FM) Tynnwyd yn ôl 3. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wirfoddoli yng Nghymru. OAQ(3)0212(FM) 4. Gareth Jones (Aberconwy): Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cynnal ynghylch cysylltiadau trafnidiaeth Gogledd-De. OAQ(3)0182(FM) 5. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei rhoi i Remploy. OAQ(3)0217(FM) 6. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ffordd liniaru Porth. OAQ(3)0189(FM) 7. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu buddiannau economaidd dyfodiad Cwpan Ryder i Gasnewydd yn 2010. OAQ(3)0201(FM) 8. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei raglen lywodraethu dros y chwe mis nesaf. OAQ(3)0195(FM) 9. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu grantiau ar gyfer gwisg ysgol ledled Caerffili. OAQ(3)0219(FM) 10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i fynd i’r afael â’r dagfa o waith atgyweirio sydd angen ei wneud mewn ysgolion yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(3)0198(FM) 11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i helpu pobl a ddioddefodd yn sgîl llifogydd yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0200(FM) 12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi eu cynnal gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â hawliau pobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru. OAQ(3)0213(FM) 13. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer bioddiogelwch yng Nghymru. OAQ(3)0202(FM) 14. Alun Ffred Jones (Caernarfon):  Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cynnal ynghylch y seilwaith trafnidiaeth OAQ(3)0187(FM) 15. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau ysgolion. OAQ(3)0209(FM)