18/10/2011 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Hydref 2011 i’w hateb ar 18 Hydref 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog egluro sut y mae ef a’i lywodraeth yn mynd i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yng Nghymru. OAQ(4)0170(FM)

2. Keith Davies (Llanelli): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effeithiau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau ar unigolion ac ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0174(FM) W

3. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru. OAQ(4)0178(FM)

4. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o oblygiadau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau i unigolion ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(4)0169(FM) W

5. Elin Jones (Ceredigion): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(4)0176(FM) W

6. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Nhor-faen.  OAQ(4)0177(FM)

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa ystyriaeth y mae’r Prif Weinidog wedi’i rhoi i effaith toriadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau lles ar bobl sy’n anabl yng Nghymru. OAQ(4)0168(FM)

8. Sandy Mewies (Delyn): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ganlyniadau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau i unigolion ac i wasanaethau cyhoeddus. OAQ(4)0175(FM)

9. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi gwneud unrhyw asesiad o'r canlyniadau i unigolion ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU i’r system fudd-daliadau. OAQ(4)0182(FM)

10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau iechyd yng Ngorllewin Cymru. OAQ(4)0180(FM)

11. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth mae ei lywodraeth yn ei wneud i helpu ffermwyr sy’n ffermio mewn Ardaloedd Llai Ffafriol. OAQ(4)0181(FM) R

12. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynigion ei lywodraeth i gefnogi economi Cymru. OAQ(4)0171(FM)

13. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad i Ddwyrain De Cymru. OAQ(4)0179(FM)

14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer rhoi hwb i dwf economaidd. OAQ(4)0172(FM)

15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Ardal Adnewyddu Hafod yn Nwyrain Abertawe. OAQ(4)0173(FM)