Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Tachwedd 2008 i’w hateb ar 18 Tachwedd 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael o ran cyflogau sector cyhoeddus yng Nghymru. OAQ1459(FM)
2. Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r argyfwng economaidd presennol. OAQ1451(FM)
3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau ar gyfer pobl sy’n gaeth i gyffuriau ledled Cymru. OAQ1443(FM)
4. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth band eang yn y Canolbarth a’r Gorllewin. OAQ1465(FM)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gost Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ1444(FM)
6. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i ddatblygu dealltwriaeth o faterion diwylliannol ymysg plant a phobl ifanc. OAQ1442(FM)
7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth cyrsiau cymhwyster ôl-radd cyfrwng Cymraeg yn y De Orllewin. OAQ1461(FM)
8. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y cyflawnir ymrwymiad Cymru’n Un i roi’r gorau i ddefnyddio ysbytai sector preifat erbyn 2011. OAQ1448(FM)
9. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu gwella darpariaeth band eang yng Nghymru wledig dros y 6 mis nesaf. OAQ1464(FM)
10. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau Meddyg Teulu yn Islwyn. OAQ1457(FM)
11. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth Addysg Uwch yng Nghymru. OAQ1455(FM)
12. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i gefnogi plant agored i niwed yng Nghymru. OAQ1441(FM) TYNNWYD YN ÔL
13. Trish Law (Blaenau Gwent): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i warchod aelwydydd rhag codiadau eithafol yn y dreth gyngor. OAQ1452(FM)
14. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer helpu aelwydydd sy’n ariannol agored i niwed yng Nghymru. OAQ1450(FM)
15. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi rhieni sengl yng Nghymru. OAQ1446(FM) TYNNWYD YN ÔL