19/06/2007 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2007 i’w hateb ar 19 Mehefin 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer sesiwn nesaf y Cynulliad. OAQ(3)0040(FM) 2. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi sylw i’r prinder tai fforddiadwy yng Nghaerdydd. OAQ(3)0056(FM) 3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd gwasanaethau canser yn y De Ddwyrain. OAQ(3)0041(FM) 4. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cynnal gyda Gweinidogion y DU parthed gwasanaethau swyddfeydd post. OAQ(3)0049(FM) W 5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y rhaglen ad-drefnu ysbytai.  OAQ(3)0051(FM) 6. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllidol y Llywodraeth ym maes iechyd. OAQ(3)0077(FM)W 7. Trish Law (Blaenau Gwent): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu cyflwyno sylwadau i Remploy Limited gyda golwg ar wrthdroi cynnig y cwmni i gau pump o’i 12 ffatri yng Nghymru. OAQ(3)0062(FM) 8. Janet Ryder (North Wales): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer addysg. OAQ(3)0080(FM)W 9. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi gofalwyr yng Nghymru. OAQ(3)0063(FM) 10. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu TAN15 - Datblygu a Pherygl o Lifogydd. OAQ(3)0044(FM) 11. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol niwrolawfeddygaeth yn Ne Cymru. OAQ(3)0042(FM) 12. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU ynghylch carchar neu garchardai newydd yng Nghymru. OAQ(3)0066(FM) 13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant polisïau’r Llywodraeth i leihau anghyfartaledd. OAQ(3)0082(FM)W 14. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi adroddiad cynnydd am Cymunedau yn Gyntaf. OAQ(3)0045(FM) 15. Alun Davies (Mid and West Wales): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y cynnydd hyd yma o safbwynt rhaglenni'r cronfeydd strwythurol newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(3)0052(FM)