20/05/2008 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Mai 2008
i’w hateb ar 20 Mai 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru  

1. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r newidiadau a fu i ardrethu eiddo gwag er Ebrill 1af 2008. OAQ(3)1036(FM)

2. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun arfaethedig i atal llifogydd yn nyffryn Conwy. OAQ(3)1041(FM) TYNNWYD YN ÔL

3. Lynne Neagle (Tor-faen): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch y cynnig ar gyfer carchar newydd yng Nghymru. OAQ(3)1021(FM)

4. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu meddygfa gordewdra yng Nghymru. OAQ(3)1039(FM)

5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa bolisïau y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf i gefnogi busnesau yng Nghymru. OAQ(3)1034(FM)

6. Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i weithredu argymhellion Adolygiad Webb (yr Adolygiad Annibynnol o Genhadaeth a Phwrpas Addysg Bellach yng Nghymru). OAQ(3)1027(FM)

7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru. OAQ(3)1029(FM)

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella mynediad at addysg uwch ar gyfer pobl o aelwydydd incwm isel. OAQ(3)1024(FM)

9. Irene James (Islwyn): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch newid i’r digidol yn Islwyn. OAQ(3)1022(FM)

10. Christopher Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Mesur Morol. OAQ(3)1028(FM)

11. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau a fu rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU ynghylch codi’r cap ar ffioedd atodol. OAQ(3)1023(FM)

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau ariannu addysg yng Nghymru. OAQ(3)1031(FM)

13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru.  OAQ(3)1026(FM)

14. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi sylwadau i grwpiau cyfryngau mawr ynghylch y sylw a gaiff newyddion o Gymru yng nghyfryngau’r DU. OAQ(3)1032(FM)

15. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ragor o leoedd ar drenau teithwyr ar Reilffordd Cwm Rhymni. OAQ(3)1038(FM)