Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2007 i’w hateb ar 20 Mehefin 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws ad-drefnu iechyd Gwent. OAQ(3)0040(HSS)
2. Andrew R T Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau diogelwch personol gweithwyr iechyd yn y gymuned yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0028(HSS)
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth mudiadau gwirfoddol yn y GIG. OAQ(3)0056(HSS)
4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ad-drefnu ysbytai ym Mhowys. OAQ(3)0015(HSS)
5. Trish Law (Blaenau Gwent): Sut y bydd y moratoriwm gwasanaeth iechyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Prif Weinidog yn effeithio ar y datblygiadau ysbytai newydd arfaethedig ym Mlaenau Gwent a Chaerffili. OAQ(3)0054(HSS)
6. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am broses ymgeisio meddygon iau yng Nghymru. OAQ(3)0057(HSS)
7. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynigion ar gyfer y GIG ar ôl y moratoriwm ar ad-drefnu. OAQ(3)0023(HSS)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pa fesurau y mae’r Gweinidog yn bwriadu eu cyflwyno i ddenu rhagor o ddeintyddion i holl ardaloedd Cymru. OAQ(3)0046(HSS)
W
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn effeithiol yn y GIG. OAQ(3)0026(HSS)
10. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau allweddol. OAQ(3)0011(HSS)
11. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau cleifion y GIG yng Nghymru. OAQ(3)0017(HSS)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gwmnïau preifat sy’n darparu gwasanaethau glanhau mewn ysbytai yng Nghymru. OAQ(3)0063(HSS)
13. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli a rhagnodi meddyginiaethau strategol. OAQ(3)0053(HSS)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau adsefydlu ar ôl strôc yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)0010(HSS)
15. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar a gafodd y Gweinidog gyda golwg ar effaith diffygion sefydliadau iechyd ar ddarparu gwasanaethau’r GIG. OAQ(3)0051(HSS)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer adran yr Economi a Thrafnidiaeth. OAQ(3)0010(ECT)
2. Dai Lloyd (South Wales West): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer datblygiad economaidd Abertawe. OAQ(3)0006(ECT)
3. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiwydiant llechi Cymru. OAQ(3)0075(ECT)
W
4. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn bwriadu cytuno ar gyffordd newydd ar yr M4 rhwng cyffordd 30 a 32. OAQ(3)0012(ECT)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Llwybrau Mwy Diogel i’r Ysgol. OAQ(3)0077(ECT)
6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ffordd osgoi Llandeilo. OAQ(3)0027(ECT)
7. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r diwydiant gweithgynhyrchu. OAQ(3)0041(ECT)
8. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer cefnffyrdd yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0007(ECT)
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu gwella seilwaith trafnidiaeth. OAQ(3)0066(ECT)
10. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer y rownd nesaf o gyllid Ewropeaidd. OAQ(3)0017(ECT)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael gyda Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn ag adfywiad economaidd Porthcawl. OAQ(3)0022(ECT)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer datblygu economi Dwyrain De Cymru. OAQ(3)0028(ECT)
13. Trish Law Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ragolygon cyflogaeth ym Mlaenau Gwent. OAQ(3)0071(ECT)
14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fentrau i leihau anweithgarwch economaidd yn y Rhyl. OAQ(3)0024(ECT)
15. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd. OAQ(3)0003(ECT)