20/10/2010 - Iechyd a Economi

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 06 Hydref 2010 i’w hateb ar 20 Hydref 2010

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd ar gyfer pobl hyn. OAQ(3)1708(HSS) TYNNWYD YN ÔL

2. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn y GIG yng Nghymru. OAQ(3)1742(HSS) TYNNWYD YN ÔL

3. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sterileiddio offer meddygol yn ysbytai Cymru. OAQ(3)1736(HSS)

4. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Orchmynion Triniaeth Gymunedol Iechyd Meddwl. OAQ(3)1720(HSS)

5. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru. OAQ(3)1693(HSS)

6. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion i wella gofal cleifion yn Ne Ddwyrain Cymru. OAQ(3)1690(HSS)

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cefnogi teuluoedd integredig yng Nghymru. OAQ(3)1713(HSS)

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd cyffuriau yn y GIG. OAQ(3)1741(HSS)

9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog dros bum mlynedd nesaf y GIG yng Nghymru. OAQ(3)1706(HSS) TYNNWYD YN ÔL

10. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddiwygio ffioedd defnyddio ffôn a theledu mewn ysbytai. OAQ(3)1711(HSS)

11. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi cyfalaf yn y GIG yng Nghymru. OAQ(3)1685(HSS)

12. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amser aros ar gyfer awdioleg yng Nghymru. OAQ(3)1703(HSS)

13. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau iechyd rheng flaen yng Nghasnewydd yn yr hinsawdd economaidd bresennol. OAQ(3)1725(HSS)

14. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth yw prif flaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y GIG yng Nghymru. OAQ(3)1698(HSS) TYNNWYD YN ÔL

15. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Nyrsio Ysgolion. OAQ(3)1686(HSS)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

1. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontractau'r Gemau Olympaidd y mae cwmnïau yng Nghymru wedi'u hennill. OAQ(3)1638(ECT)

2. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe i economi Cymru. OAQ(3)1649(ECT) W

3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio cardiau credyd/debyd i dalu tollau Pont Hafren OAQ(3)1652(ECT)

4. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl hyn. OAQ(3)1635(ECT) TYNNWYD YN ÔL

5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1669(ECT)

6. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailddefnyddio tir diffaith. OAQ(3)1689(ECT)

7. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe. OAQ(3)1648(ECT) W

8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella lefelau sgiliau yng Nghymru. OAQ(3)1642(ECT)

9. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gynyddu’r nifer sy’n dilyn prentisiaethau yng Nghymru. OAQ(3)1646(ECT) TYNNWYD YN ÔL

10. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor hwn y Cynulliad. OAQ(3)1693(ECT)

11. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yng Ngorllewin Cymru. OAQ(3)1687(ECT)

12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gynyddu defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru. OAQ(3)1681(ECT) TYNNWYD YN ÔL

13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau diweithdra yng Nghymru. OAQ(3)1672(ECT)

14. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i Ymchwil a Datblygu. OAQ(3)1644(ECT)

15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Ardrethi Busnes. OAQ(3)1678(ECT) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol