21/01/2014 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/06/2019

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2014 i’w hateb ar 21 Ionawr 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau argymhellion Comisiwn Williams ynghylch gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1437(FM)W

2. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael â Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch prisiau ynni? OAQ(4)1440(FM)

3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer GIG Cymru yn 2014? OAQ(4)1429(FM)

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r stryd fawr yng Nghymru yn 2014? OAQ(4)1434(FM)

5. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa dystiolaeth sydd gennych fod dulliau Llywodraeth Cymru i leihau faint sy’n ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant yn cael unrhyw effaith gadarnhaol? OAQ(4)1430(FM)

6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i ailsefydlu gwasanaethau llawfeddygaeth y colon a’r rhefr yn Ysbyty Bronglais? OAQ(4)1444(FM)W

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun Taith i Waith? OAQ(4)1432(FM)W

8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yn yr Ardaloedd Menter? OAQ(4)1431(FM)

9. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru? OAQ(4)1436(FM)

10. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo treftadaeth yng Nghymru? OAQ(4)1443(FM)W

11. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen i gynnal ymchwiliad trylwyr i GIG Cymru? OAQ(4)1433(FM)

12. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn ne Cymru? OAQ(4)1441(FM)

13. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol gwasanaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yng Nghymru? OAQ(4)1435(FM)

14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1428(FM)

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran cynllunio i ddileu masnachu mewn pobl yng Nghymru? OAQ(4)1442(FM)