Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 07 Tachwedd 2007 i’w hateb ar 21 Tachwedd 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros y GIG yn y Gogledd. OAQ(3)0218(HSS)
2. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oedi trosglwyddo gofal. OAQ(3)0247(HSS)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cronfeydd ar gyfer darparu clinigau clwyfau yng Nghymru. OAQ(3)0278(HSS)
4. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau gweinyddol Byrddau Iechyd Lleol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. OAQ(3)0239(HSS)
5. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i helpu’r rheini y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt i roi’r gorau i ysmygu. OAQ(3)0229(HSS)
6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynnydd yr adolygiad o ailgyflunio ysbytai. OAQ(3)0265(HSS) W
7. David Melding (Canol De Cymru): Sawl claf mewnol dan 18 oed a gafodd driniaeth mewn unedau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf yr oedd ffigurau ar gael ar eu cyfer. OAQ(3)0207(HSS)
8. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(3)0208(HSS) Tynnwyd yn ôl
9. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion i uno Ymddiriedolaethau Iechyd yn sir Benfro, sir Gaerfyrddin a Cheredigion. OAQ(3)0220(HSS)
10. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lanweithdra yn Ysbyty Cyffredinol Aberdâr. OAQ(3)0246(HSS)
11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i helpu i hybu glanweithdra mewn ysbytai yng Nghymru. OAQ(3)0234(HSS)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith hysbysebu bwydydd afiach ar iechyd. OAQ(3)0255(HSS)
13. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu dialysis yr arennau yn y Canolbarth. OAQ(3)0259(HSS)
14. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i hyrwyddo buddiannau plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yng Nghymru. OAQ(3)0276(HSS)
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth presgripsiwn y GIG. OAQ(3)0271(HSS)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gefnogaeth ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(3)0246(ECT)
2. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Beth yw’r amcangyfrif o gost y ffyrdd newydd a’r cysylltiadau ffordd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu eu hadeiladu. OAQ(3)0238(ECT)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau i hyrwyddo busnesau bach newydd yn y Canolbarth a’r Gorllewin. OAQ(3)0222(ECT)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer busnesau bach. OAQ(3)0249(ECT)
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i wneud gorsafoedd rheilffordd yn llefydd mwy diogel. OAQ(3)0242(ECT)
6. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y prosiect LG yng Nghasnewydd. OAQ(3)0251(ECT)
7. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i sicrhau bod y diwydiant logisteg yn parhau i gael ei ddatblygu yng Nghymru. OAQ(3)0217(ECT)
8. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect ymestyn yr M4. OAQ(3)0244(ECT) Tynnwyd yn ôl
9. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwelliannau cyfredol i’r A55. OAQ(3)0278(ECT)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba asesiad y mae ei adran wedi’i wneud o debygolrwydd cael gwared â’r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ffyrdd yng Nghymru. OAQ(3)0228(ECT)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio canol trefi ym Mhreseli, sir Benfro. OAQ(3)0221(ECT)
12. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer economi leol y Gogledd. OAQ(3)0255(ECT)
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus y mae’r Gweinidog yn eu cefnogi yng Ngorllewin De Cymru OAQ(3)0245(ECT)
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r trafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch effaith prisiau tanwydd ar economi Cymru. OAQ(3)0234(ECT)
15. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer yr economi yng Nghymru. OAQ(3)0248(ECT)