23/01/2013 - Iechyd, Cwnsler Cyffredinol a Comisiwn

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Ionawr 2013 i’w hateb ar 23 Ionawr 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad cyllid Llywodraeth Cymru at Ymddiriedolaeth Thalidomide. OAQ(4)0218(HSS)

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A yw’r Gweinidog wedi dyrannu’r arian cyfalaf angenrheidiol i alluogi byrddau iechyd lleol i gyflawni eu cynlluniau ail-strwythuro arfaethedig. OAQ(4)0229(HSS)W

3. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â chanfyddiadau Adroddiad Dilnot o ran talu am ofal hirdymor i bobl hyn. OAQ(4)0222(HSS)

4. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd agor meddygfeydd meddygon teulu yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0217(HSS)

5. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau adran y Gweinidog am y chwe mis nesaf. OAQ(4)0214(HSS)W

6. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganolfannau argyfyngau lleol mewn ysbytai yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0215(HSS)

7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu. OAQ(4)0224(HSS)

8. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau iechyd ar gyfer pobl Aberafan yn 2013. OAQ(4)0223(HSS)

9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0219(HSS)

10. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fyrddau iechyd Cymru yn cydweithio ar draws ffiniau. OAQ(4)0228(HSS)

11. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad Gweinidogol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru. OAQ(4)0220(HSS) TYNNWYD YN ÔL

12. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa gamau gweithredu y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ymwreiddio egwyddorion cyd-gynhyrchu wrth lunio a darparu gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(4)0226(HSS)

13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau i blant sydd â pharlys yr ymennydd. OAQ(4)0225(HSS)

14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo bwyta’n iach yng Nghymru. OAQ(4)0212(HSS)

15. Nick Ramsay (Mynwy): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud er mwyn helpu i leihau amseroedd aros yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.  OAQ(4)0216(HSS)

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2013

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael gyda’r proffesiwn cyfreithiol. OAQ(4)0043(CGE)W

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei ddyletswyddau o ran rheoliadau. OAQ(4)0044(CGE)W

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2013

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiwn amlinellu sut y mae’n helpu staff i ddysgu Cymraeg. OAQ(4)0069(AC)W

2. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu bwyd ar ystad y Cynulliad. OAQ(4)0068(AC)W