23/02/2010 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 09 Chwefror 2010 i’w hateb ar 23 Chwefror 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i godi safon gwasanaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru. OAQ(3)2658(FM)

2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Lwfansau Tai Lleol yng Nghymru. OAQ(3)2657(FM)

3. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru. OAQ(3)2664(FM)

4. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y deuddeg mis nesaf. OAQ(3)2646(FM)

5. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Cydraddoldeb Sengl yng Nghymru. OAQ(3)2660(FM)

6. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ystyriaeth a roddir i safon gwasanaethau cyhoeddus mewn mannau eraill yn y DU wrth iddo bennu ei amcanion polisi. OAQ(3)2665(FM)

7. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu addysg yn sir y Fflint. OAQ(3)2650(FM) TYNNWYD YN ÔL

8. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. OAQ(3)2659(FM)

9. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffynonellau ynni sydd ar gael ar gyfer gwres domestig mewn ardaloedd gwledig. OAQ(3)2671(FM) TYNNWYD YN ÔL

10. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi tanwydd. OAQ(3)2648(FM) TYNNWYD YN ÔL

11. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)2652(FM)

12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau polisi ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)2651(FM)

13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu unrhyw drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch yr honiadau diweddar yn erbyn Asiantaeth Ffiniau’r DU yng Nghaerdydd. OAQ(3)2667(FM)

14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bartneriaethau diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)2662(FM)

15. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau parcio i bobl anabl. OAQ(3)2666(FM) TYNNWYD YN ÔL