24/09/2013 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Medi 2013 i’w hateb ar 24 Medi 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnal a chadw cefnffyrdd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1223(FM)

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru dros y tair blynedd nesaf? OAQ(4)1212(FM)W

3. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd yr Uned Gyflawni? OAQ(4)1211(FM)

4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r meysydd y bydd yr Uned Gyflawni yn eu gwerthuso y tymor hwn? OAQ(4)1218(FM)

5. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weinyddiaeth Cynllun y Fargen Werdd yng Nghymru? OAQ(4)1206(FM)

6. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd? OAQ(4)1216(FM)

7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ardal Fenter Caerdydd? OAQ(4)1221(FM)

8. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter, yn enwedig y rheini yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)1220(FM)

9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi terfyn ar ddefnyddio cwmnïau adeiladu sy’n cynnal cosbrestri? OAQ(4)1210(FM)

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Cynllunio? OAQ(4)1217(FM)

11. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn ag ail adroddiad Comisiwn Silk? OAQ(4)1219(FM)W

12. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyngor caffael? OAQ(4)1207(FM)

13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal elusennau rhag cael eu gwahardd rhag ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig iddynt? OAQ(4)1214(FM)

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amseroedd aros y GIG yn nhymor nesaf y Cynulliad? OAQ(4)1205(FM)

15. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae wedi’u cael gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder dros egwyl yr haf? OAQ(4)1222(FM)