25/02/2015 - Cyfoeth Naturiol a Chymunedau

Cyhoeddwyd 18/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/02/2015

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Chwefror 2015 i'w hateb ar 25 Chwefror 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r diwydiant ffermio yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0263(NR)

2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gaffael cynnyrch llaeth yng Nghymru? OAQ(4)0270(NR)

3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu'r canllawiau ar gyfer ceisiadau i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer trwyddedau amgylcheddol? OAQ(4)0265(NR)

4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermio llaeth yng Nghymru yn 2015? OAQ(4)0258(NR)

5. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei brif flaenoriaethau cynllunio? OAQ(4)0260(NR)

6. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran ceisiadau cynllunio ar gyfer echdynnu nwy anghonfensiynol yng Nghymru? OAQ(4)0267(NR)

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod Cymru yn ystyried effeithiau ei hallyriadau CO2 ar weddill y byd? OAQ(4)0266(NR)

8. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â thrafodaethau gyda CFfI Cymru ar gyllid? OAQ(4)0268(NR)

9. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd rhandiroedd yng Nghymru? OAQ(4)0259(NR)

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae'r gwersi a ddysgwyd o'r llifogydd yn Nhywyn ym 1990 wedi dylanwadu ar waith cynllunio i atal llifogydd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0256(NR)

11. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gael gwared ar ludw o losgyddion gwastraff cartref yng Nghymru? OAQ(4)0261(NR)

12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau cynllunio a roddir i gynghorau lleol ar ffracio? OAQ(4)0255(NR)

13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau hyfywedd tymor hir ffermio yng Nghymru? OAQ(4)0257(NR)

14. Aled Roberts (North Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i adfer tir halogedig yng Nghymru? OAQ(4)0269(NR)W

15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa wersi ar gyfer y system ceisiadau cynllunio y mae Llywodraeth Cymru wedi'u ddysgu o ganlyniad i'r ffaith y syrthiodd achos y Swyddfa Twyll Difrifol yn erbyn gweithredwyr glo brig yng Nghymru? OAQ(4)0264(NR)

Gofyn i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai fforddiadwy? OAQ(4)0292(CTP)W

2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau gofal plant ar gyfer teuluoedd yn Nyffryn Clwyd? OAQ(4)0291(CTP)

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol tenantiaethau byrddaliol ? OAQ(4)0283(CTP)

4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): I ba raddau y mae'r Gweinidog wedi blaenoriaethu cefnogaeth i gymdeithasau tai yn ei chyllideb adrannol ar gyfer 2015-16? OAQ(4)0285(CTP)W

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddileu tlodi ymysg pobl sydd ag anableddau? OAQ(4)0296(CTP)

6. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth polisi Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru mewn ardaloedd difreintiedig? OAQ(4)0297(CTP)

7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau tlodi plant yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0289(CTP)

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailgartrefu cyn-garcharorion? OAQ(4)0284(CTP)

9. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi yng nghymoedd de Cymru? OAQ(4)0294(CTP)

10. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai cymdeithasol addasadwy i bobl anabl? OAQ(4)0287(CTP)

11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng tai dwys yng Nghaerdydd? OAQ(4)0288(CTP)

12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi? OAQ(4)0295(CTP)

13. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi yn Arfon? OAQ(4)0293(CTP)W

14. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol yng Nghymru? OAQ(4)0290(CTP)

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(4)0286(CTP)