25/05/2011 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mai 2011 i’w hateb ar 25 Mai 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae’n bwriadu amddiffyn pobl Cymru rhag toriadau Llywodraeth y DU i wariant. OAQ(4)0012(FM)

2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu amserlenni Llywodraeth Cymru ar gyfer ymestyn y rhaglen Dechrau’n Deg. OAQ(4)0002(FM)

3. Sandy Mewies (Delyn): A fydd y Prif Weinidog yn ystyried yr effaith bosibl ar wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn sgil adroddiad McNulty. OAQ(4)0007(FM)

4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa filiau yn rhaglen ddeddfu Llywodraeth Cymru am 2011-12 y mae yn bwriadu eu cyhoeddi ar ffurf biliau drafft ar gyfer craffu cyn Cyfnod 1, ac a wnaiff ddatganiad. OAQ(4)0009(FM) W

5. Ken Skates (De Clwyd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ymysg cyflogwyr a gweithwyr. OAQ(4)0006(FM)

6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad.  OAQ(4)0016(FM)

7. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio diwallu anghenion gofalwyr yng Nghymru. OAQ(4)0003(FM)

8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi ynni. OAQ(4)0008(FM)

9. Simon Thomas (Canolbarth a’r Gorllewin): Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi ei raglen ar gyfer Llywodraeth gyda thargedau cyflawni penodol. OAQ(4)0011(FM) W

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer amddiffyn plant. OAQ(4)0017(FM)

11. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â defnyddio’r Gymraeg. OAQ(4)0019(FM) W

12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cymunedau Canol De Cymru. OAQ(4)0010(FM)

13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lefelau diogelwch cymunedol yng Nghymru. OAQ(4)0001(FM)

14. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa gymorth ac arweiniad a roddir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ar gyfer paratoi ac adnewyddu Cynlluniau Datblygu Lleol cyn pen yr amserlen ofynnol. OAQ(4)0015(FM)

15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch tân yng Nghymru. OAQ(4)0005(FM)