Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Ebrill 2008
i’w hateb ar 29 Ebrill 2008
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi gwyddoniaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0941(FM)
2. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am golledion swyddi yn ardal Caernarfon. OAQ(3)0945(FM) W
3. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau o ran hybu twristiaeth yn y Canolbarth a'r Gorllewin. OAQ(3)0935(FM) TYNNWYD YN ÔL
4. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd yn Islwyn. OAQ(3)0950(FM)
5. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cynnal ynglyn â darpariaeth iechyd yng Nghwm Cynon. OAQ(3)0948(FM)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru. OAQ(3)0944(FM)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Grant Refeniw Cefnogi Pobl. OAQ(3)0942(FM)
8. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i annog busnesau bach i gynhyrchu eu hynni adnewyddadwy eu hunain ar y safle. OAQ(3)0938(FM) TYNNWYD YN ÔL
9. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau cerddoriaeth yn y gymuned. OAQ(3)0956(FM) TYNNWYD YN ÔL
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)0955(FM)
11. Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u cymryd er mwyn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. OAQ(3)0947(FM)
12. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch carchardai yng Nghymru. OAQ(3)0931(FM)
13. Mike German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael a'u bod yn gwybod sut i gael gafael arnynt. OAQ(3)0940(FM)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith rheoliadau'r UE ar y diwydiant amaeth yng Nghymru. OAQ(3)0949(FM)
15. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru i annog pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithgar. OAQ(3)0954(FM)