01/04/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 01 Ebrill 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 1 Ebrill 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog restru’r pwerau a drosglwyddwyd i (a) y Cynulliad Cenedlaethol, a (b) Gweinidogion Cymru er 1999? (WAQ53856)

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog restru’r pwerau sydd wedi cael eu dirprwyo i Weinidogion Cymru gan Weinidogion y DU er 1999? (WAQ53857)

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog restru’r pwerau a ddirprwywyd sydd wedi cael eu trosglwyddo’n ôl i Weinidogion y DU er 1999? (WAQ53858)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Trosglwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (Rhif 672) y set gyntaf o swyddogaethau o dan 350 o Ddeddfau Seneddol a 32 o Offerynnau Statudol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei alluogi i weithredu o’i sefydliad yn 1999. Rhoddodd y Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau hwn rai swyddogaethau hefyd i’r Cynulliad ar sail gydamserol hefyd, gan alluogi Gweinidogion y DU a’n Gweinidogion ni (ar ôl i’r Cynulliad ddirprwyo’r swyddogaethau iddynt) i arfer y pwerau. Mewn rhai achosion, roedd y Gorchymyn yn gofyn i Weinidogion y DU ymgynghori â’r Cynulliad cyn arfer swyddogaeth.  

Gwnaed 8 Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau dilynol arall o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, gan drosglwyddo pwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol; dirprwywyd y cyfrifoldeb am arfer y pwerau hyn yn gyffredinol i’r Gweinidogion.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GOWA 2006), trosglwyddwyd swyddogaethau 'Gweinidogol’ presennol y Cynulliad i Weinidogion Cymru i’w harfer yn eu rhinwedd eu hunain (yn hytrach nac ar ran y Cynulliad).

Hyd heddiw, mae dau Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau wedi’u gwneud o dan GOWA 2006, gan gynnwys y Gorchymyn sy’n trosglwyddo swyddogaethau i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Carcharau 1952 a wnaed gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 18fed Mawrth 2009.

Ers dechrau’r broses o ddatganoli yn 1999, mae swyddogaethau hefyd wedi’u rhoi i’r Cynulliad (o dan Ddeddf 1998) ac i Weinidogion Cymru (yn dilyn gweithredu GOWA 2006) gan Ddeddfau Seneddol. Yn y 3ydd sesiwn Seneddol (Tachwedd 2007-Tachwedd 2008), roedd 11 o Ddeddfau yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru. Yn ogystal â hyn, mae Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol a Deddfau Seneddol wedi rhoi pwerau llunio mesurau i’r Cynulliad ers i GOWA 2006 ddod i rym.

Yn ogystal â hyn, mae’r Cynulliad, i ddechrau, ond bellach Gweinidogion Cymru, wedi’u dynodi gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 2 o’r Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 i weithredu cyfraith UE at nifer o ddibenion cyffredinol.  

Ychydig iawn o drosglwyddiadau o swyddogaethau yn ôl i Weinidogion y DU a fu ac maent wedi bod yn gymharol dechnegol eu natur. Cafodd rhai swyddogaethau’r Swyddfa Gartref a drosglwyddwyd i’r Cynulliad ar gam o dan Ddeddf 1999—yn benodol, adran 30 o Ddeddf Diogelu Data 1998 a swyddogaethau sy’n gysylltiedig â throseddwyr â salwch meddwl o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983—eu trosglwyddo’n ôl wedi hynny drwy gytundeb. Hefyd drwy gytundeb, amrywiodd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau TFO 1999/672 i wneud swyddogaeth o dan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn swyddogaeth i’w harfer ar y cyd â Gweinidogion y DU.

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog restru’r concordatau sy’n bodoli rhwng Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru a datgan pryd y cytunwyd arnynt. (WAQ53859)

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog restru’r Memoranda Cyd-ddealltwriaeth sy’n bodoli rhwng Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru a datgan pryd y cytunwyd arnynt? (WAQ53860)

Y Prif Weinidog: Cytunwyd ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 1999 a chytunwyd ar fersiwn wedi’i diweddaru yn 2001. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig, sy’n ystyried datblygiadau cyfansoddiadol (gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006), yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Cydbwyllgor Gweinidogion, yn dilyn cyfarfod llawn y Cydbwyllgor fis Mehefin diwethaf.

Cytunwyd ar nifer o goncordatau rhwng Cabinet Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan delerau’r setliad datganoli yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, ac Adrannau Whitehall, yn 1999. Mae’r concordatau wedi’u hadolygu a’u diwygio o bryd i’w gilydd ers hynny. Bydd ymarfer adolygu pellach yn cael ei roi ar waith unwaith y cytunir ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian a ddyrannwyd i Gymunedau yn Gyntaf ar gyfer pob un o’r tair blynedd nesaf? (WAQ53875)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Arian a ddyrennir i Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 01 Ebrill 2009

2009/2010

£47.8 miliwn

2010/2011

£47.8 miliwn

Caiff dyraniadau yn y dyfodol eu terfynu fel rhan o’r rownd adolygiad nesaf o wariant.