Cwestiynau Ysgrifennedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Mai 2009 i’w hateb ar 1 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigur ar gyfer cyfanswm cost hysbyseb Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddangoswyd ar dudalen 26 y Barry and District News ddydd Iau, Ebrill 16eg 2009. (WAQ54234)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) beth oedd cost y contract meddygon teulu i Lywodraeth Cynulliad Cymru a (b) sut y mae hyn yn cymharu â’r costau a ragwelwyd yn wreiddiol. (WAQ54228)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) pryd y caiff Is-gadeiryddion yr Ymddiriedolaethau GIG newydd eu penodi a (b) pryd y byddant yn dechrau eu swyddi newydd. (WAQ54229)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) sut y caiff uwch reolwyr y Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi’u diddymu eu hailddyrannu i swyddi newydd a (b) pa swyddi y byddant yn eu llenwi. (WAQ54230)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw cyfanswm cost ad-drefnu’r GIG hyd yn hyn. (WAQ54231)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth oedd cyfanswm cost creu’r Byrddau Iechyd Lleol. (WAQ54232)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Sawl gorchymyn atebolrwydd llwyddiannus sydd wedi bod yng Nghymru am beidio â thalu treth gyngor bob blwyddyn er 1999, fesul awdurdod lleol. (WAQ54227)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pryd gaiff adolygiad y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol ei gwblhau a’i agor i dendr. (WAQ54233)