Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Hydref 2011 i’w hateb ar 1 Tachwedd 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Ar gyfer pob un o’r tair blynedd nesaf, faint o arian ar gyfer POWIS oedd i’w gyllido gan (a) Llywodraeth Cymru a (b) Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. (WAQ58203)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Yn sgil yr Adolygiad o Gymwysterau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar ddatganiad y Dirprwy Weinidog i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar 19eg Hydref bod y gyllideb ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn caniatáu ar gyfer ehangu pellach wedi’i gynllunio. (WAQ58201)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa amserlenni y mae’r Gweinidog wedi’u gosod ar gyfer ei ddadansoddiad o’r materion cyflenwad a galw presennol mewn addysgu iaith Gymraeg. (WAQ58204)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog bennu’r holl gyllidebau a oedd yn bodoli o’r blaen sydd wedi cael eu trosglwyddo i’r Gyllideb Safonau Addysg ar gyfer 2012-13. (WAQ58213)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ57733, a wnaiff y Gweinidog nodi ble yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y mae’r refeniw hwn wedi’i restru. (WAQ58214)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid a ddyrennir ac a gedwir yn y gyllideb iechyd ar gyfer defnydd a ragwelir yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer pwysau ar gyllidebau byrddau iechyd lleol. (WAQ58202)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei strategaeth i ddelio â swyddi gwag meddygon yng Nghymru. (WAQ58205)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau y mae hi’n eu cymryd i wneud Cymru yn lle mwy deniadol i weithio i feddygon. (WAQ58206)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf, faint o swyddi gwag meddygon a fu yng Nghymru. (WAQ58207)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o swyddi gwag meddygon sydd yng Nghymru ar hyn o bryd. (WAQ58208)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pryd y mae’r Gweinidog yn credu y bydd pob swydd wag meddyg yng Nghymru yn cael ei llenwi. (WAQ58209)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Lynne Neagle (Tor-faen): Pa bwerau sydd gan y Gweinidog i ymyrryd os yw o'r farn nad yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn gweithredu er budd ei denantiaid. (WAQ58210)
Lynne Neagle (Tor-faen): Sut mae’r Gweinidog yn bwriadu sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn wirioneddol atebol i bobl leol. (WAQ58211)