02/07/2007 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 02 Gorffennaf 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gynlluniau i ddarparu arian ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn iddynt ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros fynwentydd segur. (WAQ50119)Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer yr awdurdodau lleol sydd wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros fynwentydd segur, a’r costau cysylltiedig ar gyfer pob blwyddyn er 2000. (WAQ50120)Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y mynwentydd segur. (WAQ50121)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

Irene James (Islwyn): Pa ganllawiau cynllunio y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n eu cyhoeddi ynghylch gosod mastiau ffôn ger ysgolion. (WAQ50122)