02/07/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 2 Gorffennaf 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 2 Gorffennaf 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i un o Gynrychiolwyr y Cynulliad

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn ei ateb i WAQ56124, ar ba ddyddiad y caiff y wefan 'Busnes i Fusnes’ ei lansio ar gyfer y cyhoedd. (WAQ56153)

Rhoddwyd ateb ar 13 Gorffennaf 2010

Bwriad Croeso Cymru yw y bydd y wefan yn fyw ar 21 Gorffennaf, yn amodol ar unrhyw faterion technegol a all godi.  Fel yr eglurais yn fy ateb blaenorol, mae'r wefan yn adnodd 'busnes i fusnes', a anelir yn bennaf at gyfryngwyr y tu allan i Gymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth ar gyfer digwyddiadau busnes ac ymweliadau hamdden; yn hyn o beth, nid yw wedi'i anelu at y cyhoedd.  Fel yr awgryma'r enw, bwriad y wefan yw dod â gwerthwyr a phrynwyr ynghyd ar lefel busnes i fusnes.

Adnodd 'golwg gyntaf' ydyw yn bennaf, ac nid yw'n cynnig manylder Datganiad Hygyrchedd, y mae'n ofynnol i bob safle a sefydliad sy'n cael eu graddio ei ddarparu fel amod o gael eu graddio ac y gellir ei gael oddi wrth fusnesau ar gais.

Gofyn i un o Gynrychiolwyr y Comisiwn

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i effaith y cyfyngiadau economaidd ar gyllideb y Comisiwn dros y tair blynedd nesaf. (WAQ56152)

Rhoddwyd ateb ar 01 Gorffennaf 2010

Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad, William Graham AC: Mae Bwrdd Rheoli’r Comisiwn wedi bod yn gweithio yn ystod y misoedd diwethaf i ddatblygu cynigion ar gyfer arbedion yn y flwyddyn bresennol a chynllunio’r gyllideb ar gyfer y dyfodol, yn wyneb cyfyngiadau economaidd a’r polisïau gwariant cyhoeddus sy’n dod i’r amlwg. Yn y flwyddyn bresennol, mae’r Comisiwn wedi gwneud arbedion ac wedi adleoli adnoddau i sicrhau gwell wasanaethau ac i gynnwys costau cynyddol y prosiect rhwydwaith unedig o fewn y gyllideb a ddyrannwyd iddo. Mae ein staff wedi bod yn paratoi opsiynau ar gyfer gostyngiad sylweddol yn yr arian ar gyfer gwasanaethau’r Cynulliad mewn termau real yn y dyfodol.

Bydd y Comisiwn yn gosod cyfeiriad strategaeth y gyllideb ar gyfer 2011-12, ac yn ystyried effaith y cyfyngiadau yn y blynyddoedd ariannol canlynol, yn ein cyfarfod ar 8 Gorffennaf 2010. Byddwn yn darparu gwybodaeth am y dull o weithredu i’r Pwyllgor Cyllid cyn toriad yr haf. Gall y Prif Weithredwr roi’r un wybodaeth i chi os byddech yn ei gael yn ddefnyddiol. Bydd manylion y gyllideb ddrafft yn cael eu llunio yn ystod y toriad ac mae’r Comisiwn yn bwriadu cymeradwyo’r gyllideb ddrafft ym mis Medi, yn amodol ar gynigion i newid amserlen arferol y gyllideb oherwydd amseriad yr adolygiad o wariant yn yr hydref.