Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Hydref 2007 i’w hateb ar 02 Tachwedd 2007
R
- Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog sicrhau y cymerir camau i sicrhau y caiff gwybodaeth am bolisïau codi tâl ei darparu i bobl sy’n derbyn gofal mewn iaith blaen a bod gweithdrefnau iawn ar waith i warantu hawl pobl i apelio. (WAQ50602)
Gofyn
i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i brynu brechlyn ar gyfer clefyd Tafod Glas. (WAQ50598)