Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Mawrth 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae diwylliant yn ffitio yng Nghynllun Gofodol Cymru? (WAQ51404)
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae Cynllun Gofodol Cymru yn gosod fframwaith ar gyfer dyfodol chwe Ardal ein Cynllun Gofodol ac anela at adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywyd gyda dull gweithredu cydgysylltiedig o fynd i’r afael â materion cymhleth. Mae’n adlewyrchu’r hyn sy’n arbennig am bob Ardal fel y gallwn adeiladu ar ei natur unigryw a manteisio ar gryfder pob ardal.
Felly mae cynnwys diwylliant a threftadaeth yn ein gwaith yn hanfodol i’w lwyddiant a bydd ganddo rôl bwysicach fyth i’w chwarae wrth gyflawni ein strategaethau Ardal. Yn y ddogfen Diweddaru Cynllun Gofodol Cymru 2008, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, rydym wedi pwysleisio pwysigrwydd yr hyn sy’n unigryw i bob rhan o Gymru drwy ein thema ar Barchu Natur Unigryw Cymru. Ein nod yw arwain ar y gwaith hwn gyda’n partneriaethau, yn bennaf drwy Cadw, Croeso Cymru, a Chyrff diwylliannol a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A fyddai’r Gweinidog yn rhestru pob swm ychwanegol o arian a dalwyd i bob awdurdod lleol yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i’r llifogydd ar draws rhannau o Gymru yn ystod haf 2007? (WAQ51411)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ni thalwyd arian ychwanegol i awdurdodau lleol o ganlyniad uniongyrchol i’r llifogydd yr haf diwethaf.
Fodd bynnag, cytunais i ariannu nifer o astudiaethau peilot wedi’u hanelu at fynd i’r afael â llifogydd mewn safleoedd penodol. Caiff yr arian hwn ei ryddhau wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Mae’r astudiaethau peilot hyn yn ymwneud â llifogydd yn y Barri ym Mro Morgannwg a Phrestatyn yn Sir Ddinbych. Bydd eu canlyniadau yn llywio polisi’r llywodraeth yn y dyfodol ac yn cynnig enghreifftiau o fodelau cyflawni i’w rhoi ar waith ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi cymeradwyo cymorth ariannol (£150k) ar gyfer difrod llifogydd i un o’r ysgolion eglwysig ym Mro Morgannwg. Hyd yma, ni chyflwynwyd cais am grant gan yr ysgol.
Gall Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod cymorth ariannol ar gael pan fydd digwyddiadau annisgwyl yn codi o dan ei Gynllun Cymorth Ariannol Brys (CCAB) dewisol (h.y. Cynllun Bellwin gynt).
Roedd y costau ychwanegol yr aethpwyd iddynt gan yr ALlau o ganlyniad i’r llifogydd yr haf diwethaf yn is na maen prawf trothwy penodedig y cynllun (h.y., 0.2% o’u cyllid refeniw net). Felly ni chafodd unrhyw arian ei ryddhau o dan y cynllun hwn a chafodd costau ychwanegol eu talu o gyllidebau presennol yr ALlau.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i gefnogi oedolion ag awtistiaeth yng Nghymru? (WAQ51405)
Nick Ramsay (Mynwy): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig gan gyfeirio’n benodol at anghenion oedolion ag awtistiaeth yng Nghymru a chyhoeddi arweiniad ar hynny? (WAQ51406)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o anghenion oedolion ag awtistiaeth yng Nghymru? (WAQ51407)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn ymwybodol o nifer yr oedolion ag awtistiaeth yn eu hardal? (WAQ51408)
Y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas): Mae ein Cynllun Gweithredu Strategol drafft ar gyfer Cymru ar Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig yn cwmpasu pobl o bob oed, gan gynnwys oedolion. Disgwyliaf i’r Cynllun Gweithredu Strategol terfynol gael ei gyflwyno yn y Gwanwyn. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yw sefydlu systemau i adnabod a chofnodi pobl yn eu hardaloedd sydd ar y sbectrwm awtistig. Cafodd hyn ei gynnwys fel un o’r gweithredoedd yn ein Cynllun Gweithredu Strategol drafft ac rydym wedi annog awdurdodau i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn heb aros i’r Cynllun Gweithredu Strategol terfynol gael ei gyhoeddi. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yw asesu anghenion gofal oedolion sydd ar y sbectrwm awtistig a chynnig gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny.
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Ymddiriedolaeth GIG Abertawe ar gyfer pob un o’r 3 blynedd ariannol nesaf? (WAQ51409)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai cyfanswm yr arian cyfalaf ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Abertawe yw £27.91m ar gyfer 2008-09, £35.61m ar gyfer 2009-10 a £42.21m ar gyfer 2010-11.
Amcangyfrifon yw’r ffigurau hyn a gellir eu hadolygu yn sgîl y weithdrefn cymeradwyo achos busnes gyffredin. Yn ychwanegol, maent yn ddarostyngedig i’m cymeradwyaeth i o Raglen Cyfalaf Cymru Gyfan a’r uno ag Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Irene James (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Islwyn? (WAQ51379)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Fel yn rhannau eraill o Gymru, mae Islwyn wedi derbyn cymorth gan amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru a reolir gan yr Adran Dreftadaeth.
Mae model Mesur Gweithgarwch Economaidd Twristiaeth Scarborough (STEAM) yn awgrymu mai £73.5m y flwyddyn yw’r refeniw twristiaeth ar gyfer Bwrdeistref Caerffili (gan gynnwys Islwyn).
Drwy’r Uwch Ranbarth Twristiaeth (CRT) mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi gwaith Partneriaeth Atyniadau De Cymru (SWAP) dros nifer o flynyddoedd. Mae Cwm-carn yn atyniad allweddol yn SWAP ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi annog yr ail-fuddsoddi presennol yn y ganolfan ymwelwyr. Yn ogystal â chefnogi’r ymgyrch farchnata "Wisdom and Walks” sy’n rhoi sylw i nodweddion diwylliannol a thwristaidd Islwyn.
Caiff digwyddiadau a gynhelir yn lleoliadau diwylliannol Islwyn, fel Sefydliad y Glowyr y Coed Duon a Neuadd Goffa Trecelyn, eu hyrwyddo am ddim ar dudalennau Digwyddiadau De Cymru ar wefan CRT. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi annog twristiaeth ledled Cymru drwy roi cymorth ariannol i feysydd allweddol sy’n cynrychioli ein diwylliant a’n hanes Cymreig. Yn benodol, mae Neuadd Goffa Trecelyn wedi derbyn grant er mwy adnewyddu rhannau o’r lleoliad.
Mae etholaeth Islwyn yn gorwedd o fewn i ffiniau Parc Rhanbarthol arfaethedig y Cymoedd, yr ariannwyd ei ddatblygiad cychwynnol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriad y cynnig cyffrous hwn yw trawsnewid ac adfywio cefn gwlad y Cymoedd a chynnig mwy o weithgareddau hamdden i’r cyhoedd.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw ohebiaeth gan gynnwys negeseuon e-bost a manylion unrhyw sgyrsiau ffôn rhwng ei adran a threfnwyr Gemau Olympaidd Llundain 2012? (WAQ51387)
Rhodri Glyn Thomas: Cyfarfûm â James Purnell ar ddydd Mawrth 18 Rhagfyr i drafod ystod eang o faterion, gan gynnwys Llundain 2012. Rwyf hefyd wedi cael sgwrs dros y ffôn â Llundain 2012 ar 18 Chwefror i gael fy mriffio ar y datganiad sydd ar ddod ynglŷn â’u Canllaw ar Feysydd Hyfforddi Cyn y Gemau. Rwy’n bwriadu cyfarfod â’r Arglwydd Coe ar 20 Mawrth ac rwyf hefyd wedi trefnu cyfarfod â Phrif Weithredwr LOCOG ar 30ain Mehefin. Mae swyddogion fy adran mewn cyswllt rheolaidd ac aml â swyddogion yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a hefyd Llundain 2012 ynghylch amrywiaeth o faterion.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint y mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru wedi’i dalu i fodurwyr fel iawndal am ddifrod i gerbydau oherwydd arwynebau ffordd gwael, ceudyllau a phonciau arafu? (WAQ51393)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Ni chaiff y wybodaeth hon ei chasglu oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sydd wedi cael ei wario gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ar wella ffyrdd ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51394)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar waith cynnal a chadw ffyrdd ym mhob awdurdod lleol ar gyfer pob blwyddyn er 1999? (WAQ51396)
Brian Gibbons: Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am y rhwydwaith ffyrdd lleol. Caiff data ar wariant ar gynnal a chadw’r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd ei ddal ar sail genedlaethol yn hytrach na fesul ardal awdurdod lleol. Mae manylion y gwariant blynyddol, o 1999 i 2006, yn nhabl 1 isod. Caiff data ar y rhwydwaith ffyrdd lleol ei gasglu oddi wrth awdurdodau lleol ac mae’n cynnwys data ar welliannau strwythurol a gwaith cynnal a chadw ffyrdd. Rhoddir manylion o 1999 i 2006 yn nhabl 2.
Trunk Road Expenditure, 1999-2006 (extracted from Welsh Transport Statistics)
1999/00 £m’s |
2000/01 £m’s |
2001/02 £m’s |
2002/03 £m’s |
2003/04 £m’s |
2004/05 £m’s |
2005/06 £m’s |
2006/07 £m’s |
|
Motorway & Trunk road Routine Maintenance |
£28.4 |
£31.9 |
£28.8 |
£29.7 |
£29.7 |
£32.9 |
£33.4 |
£36.8 |
Motrorway & Trunk Road Bridges & Roads Renewals |
£18.4 |
£27.1 |
£24.7 |
£27.1 |
£23.4 |
£25.5 |
£24.1 |
£22.3 |
Total |
£46.8 |
£59.0 |
£53.5 |
£56.8 |
£53.1 |
£58.1 |
£57.5 |
£59.1 |
Capital expenditure on local authority road improvements and structural maintenance (a) (£ thousands)
Authority |
1999-00(b) |
2000-01(b) |
2001-02(b) |
2002-03 |
2003-04 |
2004-05 |
2005-06 |
2006-07 |
Isle of Anglesey |
542 |
449 |
1156 |
912 |
266 |
481 |
513 |
472 |
Gwynedd |
2838 |
2461 |
4818 |
3132 |
2345 |
6707 |
11140 |
6786 |
Conwy |
395 |
954 |
2608 |
1385 |
1249 |
2129 |
1194 |
1676 |
Denbighshire |
1663 |
1994 |
5230 |
3524 |
5210 |
1653 |
1892 |
5242 |
Flintshire |
2581 |
14569 |
3108 |
2339 |
810 |
1530 |
1857 |
2221 |
Wrexham |
2172 |
2973 |
5240 |
4219 |
2843 |
2519 |
1633 |
1690 |
Powys |
2542 |
2825 |
3492 |
2970 |
2041 |
3870 |
3651 |
3574 |
Ceredigion |
854 |
1283 |
2222 |
2427 |
1935 |
1781 |
1603 |
6462 |
Pembrokeshire |
1700 |
2119 |
1989 |
1195 |
1958 |
1340 |
3783 |
3519 |
Carmarthenshire |
5290 |
4349 |
3505 |
1542 |
2513 |
10491 |
6199 |
8386 |
Swansea |
2348 |
6175 |
8616 |
4949 |
7145 |
6386 |
5112 |
8493 |
Neath Port Talbot |
3543 |
2912 |
4992 |
2036 |
1952 |
7602 |
12864 |
13826 |
Bridgend |
1992 |
4120 |
3857 |
946 |
728 |
1703 |
1579 |
1069 |
The Vale of Glamorgan |
1850 |
2517 |
3211 |
1487 |
406 |
510 |
584 |
741 |
Rhondda Cynon Taff |
5846 |
8636 |
5700 |
3144 |
4912 |
8116 |
42378 |
41700 |
Merthyr Tydfil |
3641 |
3139 |
956 |
255 |
420 |
253 |
52 |
1557 |
Caerphilly |
1638 |
2051 |
3279 |
3019 |
4487 |
3974 |
11111 |
7370 |
Blaenau Gwent |
1322 |
906 |
2671 |
7689 |
10497 |
8243 |
771 |
1966 |
Torfaen |
2922 |
1517 |
2354 |
875 |
3148 |
652 |
978 |
1063 |
Monmouthshire |
915 |
2580 |
1866 |
415 |
1718 |
2818 |
1877 |
1878 |
Newport |
4085 |
4535 |
6219 |
6155 |
4483 |
4771 |
5026 |
11706 |
Cardiff |
16435 |
7514 |
8574 |
4368 |
4522 |
3355 |
7841 |
17922 |
Total Wales |
67114 |
80578 |
85663 |
58983 |
65588 |
80884 |
123638 |
149319 |
(a) Excludes motorways and truck roads.
(b) Includes street lighting and road safety.
Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i gefnogi pobl fyddar a thrwm eu clyw? (WAQ51401)
Brian Gibbons: Mae ein gweledigaeth o gynorthwyo pobl i fyw bywydau iach ac annibynnol, a hybu cyfle cyfartal i bawb, yn sylfaen i bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu materion yn ymwneud â phobl fyddar a thrwm eu clyw yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ers amser. Rydym hefyd wedi datblygu a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n dwyn yr enw 'Cyflawni drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain - Cyngor i Wasanaethau Cyhoeddus’ i adeiladu ar ein hymrwymiadau i gydraddoldeb a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Bydd gweithredu’r cyngor yn galluogi cyrff cyhoeddus i symud tuag at ddarparu gwasanaethau yn brydlon ac yn effeithiol mewn perthynas â BSL.
Hefyd mae gennym systemau i sicrhau y caiff cydraddoldeb ei brif ffrydio drwy ein polisïau, er enghraifft drwy ein proses o Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb a’r Cynllun Cydraddoldeb Unigol sydd ar ddod.
Nick Ramsay (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o amseroedd aros i ddarparu gwasanaethau i bobl fyddar a thrwm eu clyw, gan gynnwys darparu dehonglwyr iaith arwyddion a chefnogaeth cyfathrebu arall? (WAQ51402)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella amseroedd aros i ddarparu gwasanaethau i bobl fyddar a thrwm eu clyw, gan gynnwys darparu dehonglwyr iaith arwyddion a chefnogaeth cyfathrebu arall? (WAQ51403)
Brian Gibbons: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod dehongli o safon a gwasanaethau mynediad ieithyddol yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol. Yn 2004 aeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Cabinet ati i amcangyfrif y galw am y gwasanaethau hyn a chan ddefnyddio arwyddion gan gynnwys amseroedd archebu hir, a Dehonglwyr o Loegr yn cymryd llawer o waith yng Nghymru, daethpwyd i’r casgliad bod prinder sylweddol o Ddehonglwyr BSL yng Nghymru. Ymatebodd Llywodraeth y Cynulliad i’r argymhellion hynny drwy ddatblygu’r cyngor hwn i’w gyhoeddi a thrwy roi £1.6 miliwn fel arian rhannol i BSL Futures, menter partneriaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop gwerth £2.7miliwn i adeiladu gallu addysgu BSL ac i hyfforddi dros 30 o ddehonglwyr newydd.
Rydym hefyd wedi datblygu a chyhoeddi cyngor syml ac ymarferol i awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru sy’n dwyn yr enw 'Cyflawni drwy Gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain - Cyngor i Wasanaethau Cyhoeddus’, ac mae materion mynediad i ddinasyddion byddar a thrwm eu clyw yn rhan o 'Adeiladu Gwell Gwasanaethau Cwsmeriaid: Fframwaith ar gyfer Gwella'.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i rhoi i ddarparu cymorth ariannol i ffermwyr ar gyfer casglu stoc trig petai nifer fawr yn marw yng Nghymru oherwydd clefyd y tafod glas? (WAQ51388)
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynlluniau i gynnig cymorth ariannol i ffermwyr ar gyfer casglu stoc trig os bydd nifer uchel o farwolaethau yn sgîl Tafod Glas yng Nghymru.
Nid yw Tafod Glas yn ffactor uniongyrchol sy’n ysgogi ymyriad mewn trefniadau gwaredu stoc trig. Nid yw stoc trig yn peri risg i’r clefyd wasgaru gan y gall y firws ond symud i anifeiliaid newydd gan wybed sy’n cnoi, nad ydynt yn porthi ar dda byw marw. Fel arfer, ni chaiff anifeiliaid heintiedig eu lladd at ddibenion rheoli clefyd. Yr eithriadau yw anifeiliaid heintiedig a fewnforiwyd, na fyddent yn destun iawndal, neu nifer fach o anifeiliaid preswyl yr ystyrir eu bod yn peri risg sylweddol o ledaenu’r firws mewn ardal newydd.
Mae’n bosibl y bydd rhai ffermwyr am ladd eu da byw yr effeithiwyd arnynt am resymau lles oherwydd na ellir eu symud o ganlyniad i Barthau Gwarchod neu Barthau Dan Gyfyngiadau, neu ar gyngor milfeddyg. Penderfyniad busnes i’r ffermwr fydd hyn yn seiliedig ar ei amgylchiadau ei hun ac ni fydd yn destun cymhorthdal arbennig i gynorthwyo â’r gwaith o waredu stoc trig.
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa dystiolaeth y mae Gweinidogion y DU a Swyddogion y Trysorlys wedi’i darparu i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig dros eu penderfyniad i wrthod, hyd yn hyn, cyllido pecyn o iawndal Clwy’r Traed a’r Genau ar gyfer Cymru? (WAQ51399)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa dystiolaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i Weinidogion Llywodraeth y DU a Swyddogion y Trysorlys i gyfiawnhau galwadau i’r Trysorlys dalu am iawndal Clwy’r Traed a’r Genau yng Nghymru? (WAQ51400)
Elin Jones: Mae adroddiadau annibynnol, ar gael yn gyhoeddus, sy’n cyfeirio at ffynhonnell yr argyfwng clwy’r traed a’r genau yn Lloegr. Mae wedi’i ddatgan ar goedd bod canlyniadau’r argyfwng wedi cael effaith economaidd anffafriol sylweddol ar ffermio yng Nghymru, yn enwedig ar gyfer y sector defaid.
Rwy’n parhau i wasgu ar Lywodraeth y DU bod ganddi gyfrifoldeb i roi arian ychwanegol i fynd i’r afael â’r anawsterau a brofwyd yng Nghymru. Yn dilyn fy natganiad ar 20 Chwefror ar gynllun Iawndal Clwy’r Traed a’r Genau, rwyf wedi ei gwneud yn glir i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig bod angen i Lywodraeth y DU ad-dalu Llywodraeth Cynulliad Cymru am y costau yr eir iddynt.