Atebion a roddwyd i Aelodau ar 03 Ebrill 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y swyddi seiciatreg ymgynghorol sy’n wag yng Nghymru? (WAQ53877)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Gellir canfod nifer cyfwerth ag amser cyflawn y swyddi gwag sydd wedi bod ar gael am dri mis neu fwy ar wefan 'StatsCymru' Llywodraeth Cynulliad Cymru.
http://www.statscymru.cymru.gov.uk/ReportFolders/ReportFolders.aspx (yn y ffolder Health and Care > NHS Staffing)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu’r gwasanaeth uned dialysis yn sir Powys? (WAQ53880)
Edwina Hart: Ar ôl ymarfer blaenoriaethu Cymru gyfan a hwyluswyd gan y Grŵp Cynghori Arennol a'r Rhwydweithiau Arennol ar 6 Ionawr 2009, cadarnhawyd bod darpariaeth dialysis newydd ar gyfer Powys yn flaenoriaeth. Caiff arfarniad o'r opsiynau ei gynnal nawr i ystyried gwahanol leoliadau a chyfluniadau ar gyfer y ddarpariaeth newydd ym Mhowys a bydd y Trallwng yn un o'r opsiynau a gaiff ei ystyried. Bydd yr arfarniad hwn o'r opsiynau yn llywio achos busnes a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad erbyn mis Medi 2009.