Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Mehefin 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaeth ynghylch hyfywedd Alwminiwm Môn? (WAQ54253)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Cyn ac ers cyflwyno hysbysiadau ymgynghori, bûm mewn trafodaethau â sefydliadau amrywiol, ar y cyd â Llywodraeth y DU, o ran dyfodol Alwminiwm Môn.
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymestyn y Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol a pha feini prawf newydd, os o gwbl, y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr eu diwallu? (WAQ54226)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Ym mis Mawrth 2009 cyhoeddais gynlluniau i ehangu'r Cynllun Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol. Rwyf wedi penderfynu parhau gyda'r meini prawf presennol ar gyfer 2009-10. Bydd hon yn flwyddyn bontio ac yn caniatáu i ni weithio gyda Chymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru i ddatblygu cynllun mwy cynaliadwy ar gyfer y cyhoedd.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cysylltiad awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? (WAQ54252)
Y Dirprwy Weinidog: Mae'r contract Gwasanaeth Awyr Oddi Mewn i Gymru presennol yn rhedeg hyd at fis Mai 2010. Mae fy swyddogion wrthi'n adolygu'r opsiynau ar gyfer y gwasanaeth awyr a bydd hyn yn llywio fy mhenderfyniad ar sut i symud ymlaen.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl swydd gweithgynhyrchu a gollwyd yng Nghymru ym mhob mis er mis Mai 2007? (WAQ54254)
Y Dirprwy Weinidog: Ni cheir amcangyfrifon misol swyddogol o swyddi yng Nghymru yn ôl sector. Dengys y gyfres swyddi cyflogeion swyddogol, a gyhoeddir yn chwarterol, yn y tabl isod. Mae'r data mwyaf diweddar yn ymwneud â'r cyfnod rhwng mis Mehefin 2007 a mis Rhagfyr 2008. Dengys y data fod cyfanswm nifer y swyddi cyflogeion yng Nghymru dros y cyfnod hwn wedi lleihau o 1,185,600 i 1,145,400. Mae cyfanswm nifer y swyddi cyflogeion yn y sector gweithgynhyrchu wedi lleihau o 160,800 i 151,700 dros yr un cyfnod
Swyddi cyflogeion yn ôl diwydiant, Cymru (miloedd)
Chwarter |
Gweithgynhyrchu |
Cyfan |
Ion 07 |
160.8 |
1185.6 |
Med 07 |
160.3 |
1171.6 |
Rhag 07 |
159.6 |
1164.1 |
Maw 08 |
158.1 |
1154.0 |
Meh 08 |
157.3 |
1155.5 |
Med 08 |
155.0 |
1151.7 |
Rhag 08 |
151.7 |
1145.4 |
Ffynhonnell: Arolygon Cyflogwyr, SYG.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl swydd gwasanaeth cyhoeddus a gollwyd yng Nghymru ym mhob mis er mis Mai 2007? (WAQ54255)
Y Dirprwy Weinidog: Nid oes amcangyfrifon misol swyddogol o swyddi yng Nghymru yn ôl sector. Caiff yr unig ffynhonnell swyddogol o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus ei chyhoeddi'n flynyddol. Dengys y data diweddaraf yn y tabl isod.
Cyflogaeth yn y Sector Cyhoeddus a'r Sector Preifat, Cymru
Cyhoeddus |
Preifat |
|
1999 |
290 |
908 |
2000 |
295 |
924 |
2001 |
296 |
902 |
2002 |
300 |
920 |
2003 |
319 |
972 |
2004 |
304 |
995 |
2005 |
302 |
1011 |
2006 |
310 |
998 |
2007 |
314 |
1017 |
Ffynhonnell: Cyflogaeth yn y Sector Cyhoeddus Rhanbarthol, SYG.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut a phryd y mae’n disgwyl i GYC Cymru gyrraedd 90 y cant o GYC y DU? (WAQ54256)
Y Dirprwy Weinidog: Nid oes unrhyw ragolygon swyddogol wedi'u gwneud ar gyfer GYC Cymru.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Swyddfa Cymru ynghylch yr ymgynghoriad i gasgliadau adolygiad Rugg i’r Sector Rhentu Preifat? (WAQ54296)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio'n agos gyda'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol i ystyried sut y gall casgliadau adolygiad Rugg gynnig manteision i Gymru, yn enwedig lle ceir cyfle i ddefnyddio dull gweithredu ar y cyd.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Beth yw oed ymddeol cyfartalog bydwragedd ym mhob Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru? (WAQ54235)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ni ddelir y wybodaeth hon yn ganolog.