03/10/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26ain Medi i’w hateb ar 03ydd Hydref 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o ysgolion sydd â thimau ysgol ar gyfer chwaraeon cystadleuol ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob chwaraeon. (WAQ52553)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o ysgolion cynradd ac uwchradd sydd â hyfforddwr Addysg Gorfforol cymwysedig ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob AALl yng Nghymru. (WAQ52554)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o ysgolion cynradd ac uwchradd sydd â champfa ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad ar gyfer pob AALl yng Nghymru a phroffil oed y cyfleusterau. (WAQ52557)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn ystyried symleiddio cynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru i sicrhau na fydd oedi diangen mewn prosesau cynllunio. (WAQ52549)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn ystyried rhoi arian ychwanegol ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy ac ystyried y cwymp yng ngwerth eiddo ar hyn o bryd. (WAQ52550)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Mewn perthynas ag ardrethi busnes, pa ystyriaeth a roddir i eithriadau ar gyfer eiddo sydd wedi cael eu hadeiladu i greu swyddi yn hytrach nag at ddibenion adwerthu. (WAQ52547)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn perthynas ag ardrethi busnes ar eiddo gwag. (WAQ52548)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Mewn perthynas ag ardrethi busnes ar eiddo gwag, pa ystyriaeth a roddir i eithriadau ar gyfer ardaloedd Amcan Un. (WAQ52556)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw’r amser cyfartalog a gymerir i olrhain anifeiliaid a werthwyd o ffermydd sydd wedyn yn cael eu heintio â TB. (WAQ52551)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A oes uchafswm amser i olrhain anifeiliaid a werthwyd o ffermydd sydd wedyn yn cael eu heintio â TB. (WAQ52552)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pan fydd anifail yn cael ei werthu mewn marchnad da byw o fferm sydd wedyn yn cael ei heintio â TB, a fydd yr holl anifeiliaid a gafodd eu gwerthu yn y farchnad y diwrnod hwnnw