03/10/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 27/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Medi 2017 i'w hateb ar 3 Hydref 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ74145, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw'r cymhorthdal yn cynnwys cyllid i gyflawni cynllun peilot newydd Llywodraeth Cymru o deithiau am ddim ar benwythnosau ac, os nad ydyw, faint y mae'r T9 wedi'i gyfrannu at gost y cynllun hwnnw? (WAQ74263)

Derbyniwyd ateb ar 4 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): The subsidy of £264,726 does not include funding for the TrawsCymru free weekend travel initiative. To date £13,257.50 has been paid to the operator as reimbursement for the loss of fare income of the T9 during weekends covered by the free travel initiative.
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Nathan Gill (Gogledd Cymru): Ymhellach i OAQ51042, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion ynghylch pa drafodaethau a gynhaliwyd gyda'r gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar ddatblygu dull DU-gyfan ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit? (WAQ74265)

Derbyniwyd ateb ar 4 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): I last met with my Ministerial counterparts from across the UK on 25 September. I expect these meetings to continue on a regular basis to ensure progress is made on key issues and the views of the Devolved Administrations are considered.

My officials continue to actively engage with Defra and the Devolved Administrations across a number of different work streams including legislation, trade, animal health and welfare and food and farming to ensure Welsh agriculture is considered in all aspects of the negotiations to transition from the EU. The Welsh Government position is in all cases, frameworks should be mutually agreed between the 4 administrations with appropriate supporting governance arrangements. These arrangements should not constrain legislative competence and in areas where there is no currently EU framework then there is no reason for a new UK framework.​


 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o gost prynu contractau partneriaeth preifat presennol? (WAQ74262)

Derbyniwyd ateb ar 3 Hydref 2017

The Cabinet Secretary for Finance and Local Government (Mark Drakeford): All authorities in Wales responsible for PFI contracts should keep those contracts under review, including considering the case for buying out contracts where that is affordable and would maximise value for money over the remaining life of the contract.
 
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu dadansoddiad o'r costau a gododd i Lywodraeth Cymru yn sgil gweinyddu Ardrethi Busnes Cymru yn 2016-17, y pwll trethi annomestig yn 2016-17, a'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2017-18? (WAQ74264)

Derbyniwyd ateb ar 2 Hydref 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): The Welsh Government administrative functions relating to non-domestic rates, the non-domestic rates pool and the local government settlement form part of the core work of the team responsible for local government finance matters alongside a range of other functions.  Costs for these functions are not identified separately within departmental running cost budgets.