Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27ain Hydref 2008 i’w hateb ar 3ydd Tachwedd 2008
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y troseddau cyffuriau yng Nghymru a’r hyn y mae’n cynnig ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon. (WAQ52683)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
A wnaiff y Gweinidog roi gwybod a yw’r ffaith bod heddluoedd yn tangofnodi troseddau treisgar yn ddifrifol wedi cael unrhyw oblygiadau yng nghyswllt darparu polisïau cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. (WAQ52684)