Atebion a roddwyd i Aelodau ar 3 Rhagfyr 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr haen gyntaf o gwmnïau KB4B, yn ogystal â nodi faint a gyflogwyd ganddynt adeg eu cynnwys yn y rhaglen a faint a gyflogir ganddynt yn awr? (WAQ52846)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae swyddogion yn monitro data allweddol - gan gynnwys lefelau cyflogaeth - ar gyfer yr holl gwmnïau KB4B ac ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu’r data hwnnw fel rhan o’n swyddogaeth rheoli cyberthnasau reolaidd. Byddaf yn ysgrifennu atoch o fewn pythefnos gyda’r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer y grŵp cyntaf o gwmnïau gan gynnwys cyngor ar symud o fewn y gwaelodlin cleientiaid gwreiddiol.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) pa drafodaethau y mae ef neu ei adran wedi’u cael gyda Chyngor Abertawe am gais grant i gynnal gwelliannau amgylcheddol a gwaith iechyd a diogelwch ar lannau Afon Tawe ger Marina Abertawe gan gynnwys; (b) beth yw gwerth y gwaith hwnnw; (c) pa amodau y mae’n ceisio eu gosod ar y Cyngor yng nghyswllt tendro am y gwaith; (d) pa ystyriaethau y mae’n eu rhoi i gwblhau’r gwaith yn y flwyddyn ariannol gyfredol a (e) a fydd unrhyw arian cyfatebol ar gael ganddynt, drwy drafodaethau gyda’r cyngor? (WAQ52820)
Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Mae fy swyddogion wedi cynnal trafodaethau cychwynnol â Dinas a Sir Abertawe i archwilio’r posibilrwydd o roi cymorth i gynllun gwella’r amgylchedd ar lannau Afon Tawe. Yn seiliedig ar amcangyfrifon dangosol, cost y gwaith hwn yw tua £500,000 a byddai angen i unrhyw waith tendro gael ei wneud yn unol â gweithdrefnau tendro safonol y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi bwysleisio bod y trafodaethau hyn ar gam cynnar a bod ariannu’r prosiect eto i gael ei derfynu. Er y bu rhywfaint o drafodaeth gyfyngedig am gyflawni’r gwaith dylunio eleni, nid os unrhyw benderfyniadau terfynol wedi cael eu gwneud eto.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sy’n cael eu hystyried ar gyfer gwaith adfywio ffisegol dan gyllid cydgyfeirio ar gyfer Dinas a Sir Abertawe yn y flwyddyn ariannol nesaf? (WAQ52821)
Leighton Andrews: Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol drwy’r Fforwm Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru er mwyn cytuno ar y cyd ar flaenoriaethau ar gyfer adfywio ffisegol.
Ar hyn o bryd mae datganiadau o ddiddordeb ar gyfer arian Cydgyfeirio Ewrop yn cael eu datblygu gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru o ran y prosiectau canlynol:
Ardal Adfywio Masnachol - Gwell adeiladau yn ardal fasnachol y Ddinas; Y Glannau - Gwaith i hwyluso datblygu ar hyd ardal y Glannau; Gwaith Gwella Ffordd Ystumllwynarth - Gwella cysylltiadau rhwng y ddinas a’i Glannau, a chreu glannau masnachol gweithredol; Canol y Ddinas - Gwaith amgylcheddol i helpu i adfywio ardaloedd yng nghanol Abertawe.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o ddisgyblion yng Nghymru sydd wedi cael eu gwahardd am fod yn hiliol ac a all y Gweinidog roi dadansoddiad ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a fesul pob AALl yng Nghymru? (WAQ52835)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Ni chesglir y wybodaeth am waharddiadau oherwydd Aflonyddu Hiliol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ar hyn o bryd. Mae’r tabl canlyniadau yn ymwneud â gwaharddiadau oherwydd Aflonyddu Hiliol ar lefel yr AALl, ar y lefel gynradd ac uwchradd. Mae’n ymwneud ag achosion ac nid disgyblion unigol.
Gwaharddiadau oherwydd Aflonyddu Hiliol, fesul AALl, 2006/07 (a)
|
Gwaharddiadau Parhaol |
Gwaharddiadau Tymor Sefydlog |
|||
Ynys Môn |
0 |
* |
|||
Gwynedd |
0 |
0 |
|||
Conwy |
0 |
* |
|||
Sir Ddinbych |
0 |
5 |
|||
Sir y Fflint |
0 |
6 |
|||
Wrecsam |
0 |
5 |
|||
Powys |
0 |
* |
|||
Ceredigion |
0 |
* |
|||
Sir Benfro |
0 |
* |
|||
Sir Gaerfyrddin |
0 |
0 |
|||
Abertawe |
0 |
10 |
|||
Castell-nedd Port Talbot |
0 |
* |
|||
Pen-y-bont ar Ogwr |
0 |
* |
|||
Bro Morgannwg |
0 |
* |
|||
Rhondda Cynon Taf |
0 |
* |
|||
Merthyr Tudful |
0 |
* |
|||
Caerffili |
0 |
8 |
|||
Blaenau Gwent |
0 |
* |
|||
Tor-faen |
0 |
5 |
|||
Sir Fynwy |
0 |
0 |
|||
Casnewydd |
0 |
* |
|||
Caerdydd |
0 |
34 |
|||
Cymru |
|
0 |
|
107 |
(a) Ffigurau yn ymwneud ag achosion ym mhob ysgol.
* Lle mae nifer y disgyblion yn llai na phump ond yn fwy na sero, mae’r nifer wedi’i ddatgelu i ddiogelu manylion personol y disgyblion
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sawl achos o anaf difrifol a fu ar eiddo ysgolion dros y pum mlynedd diwethaf? (WAQ52836)
Jane Hutt: Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon gan mai cyfrifoldeb Penaethiaid a Llywodraethwyr ar lefel yr ysgol, ac yna’r Awdurod Lleol perthnasol, yw iechyd a diogelwch ysgolion.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sawl marwolaeth a fu mewn ysgolion yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999? (WAQ52837)
Jane Hutt: Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu’r wybodaeth hon gan mai cyfrifoldeb Penaethiaid a Llywodraethwyr ar lefel yr ysgol, ac yna’r Awdurod Lleol perthnasol, yw iechyd a diogelwch ysgolion.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw newidiadau i’r amodau neu i’r amgylchiadau lle gall Llywodraeth Cynulliad Cymru gael gafael ar yr Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn sydd wedi cronni? (WAQ52825)
Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae Llywodraeth y Cynulliad bob amser wedi defnyddio Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn ar ôl trafod â Thrysorlys EM. Defnyddir Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn ystod y flwyddyn drwy Amcangyfrifon Seneddol y Gaeaf neu’r Gwanwyn a’i bennu i gyllidebau adrannau drwy Gynnig Cyllidebol Atodol. Yn fy nghyfarfod diweddar â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, cadarnhaodd nad oedd newid i’r weithdrefn hon.
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau’r Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn a gedwir gan y Trysorlys ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ52826)
Andrew Davies: Gwnaeth ein Cynigion Cyllideb 2009-10 a gyhoeddwyd ym mis Hydref amlinellu lefelau hanesyddol o Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn. Mae’r Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn 2007-08 a gronnwyd yn y broses o gael ei derfynu gyda Llywodraeth y DU ac felly dylid trin y ffigurau cronnol ar gyfer cronfeydd Hyblygrwydd diwedd Blwyddyn ar ddiwedd 2007-08 fel rhai dros dro.
Cronfeydd Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn Cronnol ar ddiwedd bob Blwyddyn Ariannol
Blwyddyn Ariannol |
£m |
||
Refeniw |
Cyfalaf |
Cyfanswm |
|
1999/00 2000/01 2001/02 2002/03 2003/04 2004/05 2005/06 2006/07 |
377 111 237 209 122 95 |
1 89 51 61 66 145 |
234 421 378 200 288 270 188 240 |
2007/08 |
164 |
224 |
388 |
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithrediad ariannol yr adroddiad cyn y gyllideb. (WAQ52831)
Andrew Davies: Mae Adroddiad Rhag-gyllidebol Llywodraeth y DU (PBR) yn cynnwys nifer o fesurau i helpu unigolion, teuluoedd a busnesau drwy’r amseroedd heriol hyn. Mae’n cyd-fynd â dull Llywodraeth y Cynulliad yn ystod y broses pennu cyllideb hon i helpu pobl lle mae hynny bwysicaf.
Mae’r Adroddiad Rhag-gyllidebol yn rhoi cyfle i gyflwyno tua £140 miliwn o wariant yn gynharach. Bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru yw manteisio ar y cyfle hwn, sy’n cefnogi gwaith ar ddod â phrosiectau cyfalaf ymlaen, a oedd yn mynd rhagddo eisoes o ganlyniad i Gynadleddau Economaidd Cymru Gyfan ym mis Hydref a mis Tachwedd.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn cael cyllideb gyfalaf fach ganlyniadol Barnett o tua £3 miliwn yn 2008/09 a 2009/10.
Rwyf yn gyson wedi datgan y bydd cyllidebau o 2010-11 ymlaen yn sylweddol fwy cyfyngedig na nawr, yn yr un ffordd y mae cyllidebau bellach yn fwy cyfyngedig nag yn ystod cyfnod 1af ac 2il gyfnod y Cynulliad. Mae’r Adroddiad Rhag-gyllidebol yn gyson â’r safbwynt hwnnw.
Mae’n rhy fuan i ddweud yn union beth fydd effaith Adroddiad Rhag-gyllidebol ar gyllidebau Llywodraeth y Cynulliad yn y dyfodol, gan fydd y rhain yn cael eu pennu yn ystod yr Adolygiad Gwario nesaf. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i bennu’r gyllideb mewn modd pwyllog i sicrhau y gellir datblygu ein hagenda Cymru’n Un.