Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Tachwedd 2015 i'w hateb ar 4 Rhagfyr 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn Gymraeg.
Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi manylion unrhyw gyngor a gafwyd eleni ar argymhellion ar gyfer targedau lleihau allyriadau carbon blynyddol i Gymru? (WAQ69510)
Derbyniwyd ateb ar 9 Rhagfyr 2015
Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant): Although we have not received direct advice on annual emission targets for this year, the UK Climate Change Committee's (UKCCC) most recent annual report which was published in June. The report outlines the UK and DA's progress towards meeting their respective annual targets and provides recommendations on areas that may require stronger action.
The UKCCC report can be found at
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y prosiect seilwaith symudol ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? (WAQ69511)
Derbyniwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2015
Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg (Julie James):
Despite regular and proactive engagement between Powys Council, Welsh Government Officials and the UK Government's Mobile Infrastructure Project team, the programme will only deliver one site in Brecon and Radnorshire at Dorthy Farm, Newchurch near Kington.