05/09/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Medi 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Medi 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.CynnwysCwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a ThrafnidiaethCwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pryd y bwriedir cychwyn ar y gwaith ar hyd Ceunant Clydach sy’n rhan o gynllun deuoli Blaenau’r Cymoedd? (WAQ50336)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae’r adran Gilwern i Frynmawr, sy’n effeithio ar Geunant Clydach, yng Ngham 2 o Flaenraglen y Cefnffyrdd. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau y gellid dechrau arnynt erbyn Ebrill 2010, yn amodol ar gwblhau’r gweithdrefnau caniatâd statudol a sicrhau’r arian angenrheidiol.

Mae’r Gorchmynion Ffyrdd Ymyl a’r Gorchmynion Prynu Gorfodol drafft i gael caniatâd statudol eto i’w cyhoeddi ac mae’n debygol iawn y bydd angen cynnal Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus pellach, a bydd dyddiadau cynnal yr ymchwiliad hwnnw yn ffactor arwyddocaol wrth benderfynu ar unrhyw ddyddiad dechrau cadarn. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pryd y bwriedir cwblhau’r gwaith ar gynllun deuoli Blaenau’r Cymoedd? (WAQ50337)Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu gwahanol gamau cynllun deuoli Blaenau’r Cymoedd? (WAQ50338)Ieuan Wyn Jones: Yn dilyn cwblhau’r gwaith deuoli’r ffordd rhwng Tredegar a Dowlais Top (Adran 4) ym mis Tachwedd 2004, disgwylir i’r ffordd ddeuoli rhwng y Fenni a Gilwern (Adran 1) fod ar agor i draffig yn ddiweddarach eleni. Mae’r camau ar gyfer cwblhau’r adrannau sy’n weddill o’r gwaith o ddeuoli 40km o’r ffordd rhwng y Fenni a Hirwaun wedi’u nodi yn Atodiad 2004 i Flaenraglen y Cefnffyrdd. Mae’r cynlluniau, yn nhrefn eu hadeiladu, fel a ganlyn: Adran 3 - Brynmawr i Dredegar. (Cam 2 - gallai fod yn barod i’w ddechrau erbyn Ebrill 2010).Adran 2 -  Gilwern i Frynmawr. (Cam 2 - gallai fod yn barod i’w ddechrau erbyn Ebrill 2010).Adran 5 - Dowlais Top i’r A470. (Cam 3 - yn annhebygol y bydd yn dechrau cyn Ebrill 2010).Adran 6 - yr A470 i Hirwaun. (Cam 3 - yn annhebygol y bydd yn dechrau cyn Ebrill 2010).Mae cwblhau’r cynlluniau hyn yn amodol ar gwblhau’r gweithdrefnau caniatâd statudol a sicrhau bod arian ar gael. Mae’r Gorchmynion Ffyrdd Ymyl a’r Gorchmynion Prynu Gorfodol drafft i gael caniatâd statudol ar gyfer pob cam eto i’w cyhoeddi ac mae’n debygol iawn y bydd angen cynnal Ymchwiliadau Lleol Cyhoeddus pellach, a bydd dyddiadau cynnal yr ymchwiliadau hynny yn ffactor arwyddocaol wrth benderfynu ar unrhyw ddyddiadau dechrau cadarn.Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r rhagofalon a gymerwyd i ddiogelu unrhyw fywyd gwyllt y gallai cynllun deuoli Blaenau’r Cymoedd effeithio arno? (WAQ50339)Ieuan Wyn Jones: Fel rhan o’r broses o ddatblygu’r cynllun, ymgymerwyd â gweithgareddau i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol briodol i ddiogelu safleoedd bywyd gwyllt, cynefinoedd a rhywogaethau. Mae hyn yn cynnwys Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, a nodwyd mewn Datganiad Amgylcheddol a gyhoeddwyd cyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r cynllun deuoli’r A465 cyfan yn 1998. Ers hynny, gwnaed cryn dipyn o waith arolwg amgylcheddol. Ar gyfer pob cam sy’n weddill, bydd angen cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, a nodir canfyddiadau’r asesiad hwnnw yn y Datganiadau Amgylcheddol a, lle y bo’n briodol, yn y Datganiadau i Lywio Asesiad Priodol o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE. Cyhoeddir y Datganiadau hyn gyda’r Gorchmynion Drafft o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a bydd yn agored i bobl sydd â diddordeb gyflwyno gwrthwynebiadau, sylwadau a llythyrau o gefnogaeth mewn perthynas â hwy.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Leanne Wood (Canol De Cymru): Beth yw’r targedau ymateb presennol ar gyfer galwadau brys Categori A, Categori B a Chategori C yn Rhondda Cynon Taf? (WAQ50331)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ni phennwyd unrhyw dargedau ar gyfer ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol unigol. Fodd bynnag, mae angen i berfformiad ym mhob ardal adlewyrchu gwelliant parhaus o ran cyflawni’r targed cyffredinol.

Leanne Wood (Canol De Cymru): Beth yw amser ymateb a phellter teithio derbyniol i ambiwlans gyrraedd galwad frys 999 yn Rhondda Cynon Taf ym marn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru? (WAQ50332)Edwina Hart: Rhaid i’r Ymddiriedolaeth ymateb i gyfartaledd Cymru gyfan sef o leiaf 60% o ddamweiniau brys sy’n bygwth bywydau yn Rhondda Cynon Taf o fewn 8 munud i nodi’r brif gŵyn, gydag ymateb dadebru (h.y. criw ambiwlans, parafeddyg ymateb brys neu ymatebydd cyntaf) fel y diffinnir yn ôl safonau Llywodraeth Cynulliad Cymru.Leanne Wood (Canol De Cymru): Beth oedd yr amserau ymateb ar gyfer galwadau brys Categori A, Categori B a Chategori C yn Rhondda Cynon Taf ers mis Awst 2006? (WAQ50333)Edwina Hart: Mae’r tabl isod yn nodi data perfformiad chwarterol ar amseroedd ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans yn Rhondda Cynon Taf. Dylid nodi bod galwadau Categori C yn cael ymateb Categori B ar hyn o bryd.Amseroedd ymateb Gwasanaethau Ambiwlans Rhondda Cynon Taf mewn Canrannau
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Medi 2007
  Chwarter yn dod i ben      
  Medi 2006 Rhagfyr 2006 Mawrth 2007 Mehefin 2007
Canran y galwadau Categori A sy’n arwain at ymateb brys yn cyrraedd o fewn        
8 munud 47.3 49.7 51.9 64.7
9 munud 53.6 55.4 56.8 69.6
10 munud 59.2 60.2 60.5 73.6
Canran y galwadau Categori A sy’n arwain at ambiwlans yn cyrraedd o fewn 14/18/21 o funudau (1) 75.9 68.5 79.4 90.6
Canran y galwadau Categori B sy’n arwain at ambiwlans yn cyrraedd o fewn 14/18/21 o funudau (1) 66.7 58.2 55.7 72.8
(1) Ystyrir Rhondda Cynon Taf fel ardal wledig, felly yr amser safonol yw 18 o funudauLeanne Wood (Canol De Cymru): Beth yw’r amser hwyaf y mae wedi’i gymryd bob mis o fis Awst tan nawr, i ambiwlans sydd ag ystod lawn o offer ac sy’n cynnwys dau barafeddyg gyrraedd digwyddiad i gynorthwyo Cerbyd Ymateb Cyflym yn Rhondda Cynon Taf ar ôl derbyn galwad frys 999 yn y Ganolfan Reoli? (WAQ50334)Edwina Hart: O blith 8,392 o alwadau 999 o fis Awst 2006 i fis Awst 2007 yn Rhondda Cynon Taf, nodir isod amseroedd ymateb misol hiraf ambiwlans brys, o adeg cadarnhau’r brif gŵyn hyd at gyrraedd y lleoliad. Ym mhob un o’r achosion, bydd parafeddyg wedi cyrraedd mewn Cerbyd Ymateb Brys cyn yr ambiwlans.
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Medi 2007
Mis Awst 2006 Medi 2006 Hyd 2006 Tach 2006 Rhagfyr 2006 Ion 2007 Chwe 2007
Oriau:Munudau:Eiliadau 00:31:00 00:38:00 00:37:22 01:04:55 00:45:00 00:42:20 00:53:58
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Medi 2007
Mis Maw 2007 Ebr 2007 Mai 2007 Meh 2007 Gorff 2007 Awst 2007
Oriau:Munudau:Eiliadau 00:51:00 00:35:07 00:46:00 00:52:20 00:39:08 00:43:00
Leanne Wood (Canol De Cymru): Faint o amser ar gyfartaledd y mae ambiwlans sydd ag ystod lawn o offer ac sy’n cynnwys dau barafeddyg wedi’i gymryd, ar ôl galwad frys 999 yn y Ganolfan Reoli, i gyrraedd digwyddiad i gynorthwyo Cerbyd Ymateb Cyflym yn Rhondda Cynon Taf, a hynny bob wythnos a phob mis ers mis Awst 2006? (WAQ50335)Edwina Hart: O blith 8,392 o alwadau 999 o fis Awst 2006 i fis Awst 2007 yn Rhondda Cynon Taf, yr amser cyfartalog a gymerodd ambiwlans parafeddyg a oedd â’r holl offer priodol a dau barafeddyg o amser yr alwad 999 yn y Ganolfan Anfon Ambiwlansys (Canolfan Rheoli) i gyrraedd man y ddamwain i gynorthwyo Cerbyd Ymateb Cyflym oedd naw munud.  Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi darparu’r rhifau cyfartalog misol canlynol:
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Medi 2007
Mis Awst 2006 Medi 2006 Hyd 2006 Tach 2006 Rhag 2006 Ion 2007 Chwe 2007
Oriau:Munudau:Eiliadau 08:31 09:20 09:20 09:36 09:29 09:43 11:24
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Medi 2007
Mis Maw 2007 Ebr 2007 Mai 2007 Meh 2007 Gorff 2007 Awst 2007
Oriau:Munudau:Eiliadau 09:21 07:39 08:36 08:20 08:31 08:35
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Sut y penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y ffigur o £75,000, sef y swm a ddyrannwyd i Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro ar gyfer rhoi’r Agenda ar gyfer Newid ar waith? (WAQ50340)Edwina Hart: Nododd Llywodraeth Cynulliad Cymru swm cyffredinol dros gyfnod o ddwy flynedd i helpu Ymddiriedolaethau GIG Cymru i dalu costau eu timau gweithredu sy’n gweithio ar Agenda ar gyfer Newid. Dechreuodd y broses ariannu ym mis Rhagfyr 2003 a daeth i ben ym mis Tachwedd 2005 a £75,000 oedd y dyraniad cyfartalog i bob ymddiriedolaeth.Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o ran nodi staff y GIG yng Nghymru yng Nghofnodion Staff Electronig Cymru a Lloegr? (WAQ50341)Edwina Hart: Mae’r system Cofnodion Staff Electronig yn cynnig yr opsiwn i nodi’r iaith a siaredir, yn cynnwys Cymraeg.