05/11/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Tachwedd 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Tachwedd 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi unrhyw drwyddedau i ryddhau gwiwerod llwyd yn y gwyllt yn ystod y 3 blynedd calendr diwethaf ac os felly i bwy? (WAQ50578)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Yn y 3 blynedd galendr ddiwethaf mae Cynulliad Cymru wedi rhoi 3 trwydded i Dr Sarah Cartmel i ryddhau wiwerod llwyd at ddibenion ymchwil yng Nghoedwig Clocaenog.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r amserlen ar gyfer adolygu Tan 20: Yr Iaith Gymraeg, ac a fu unrhyw gynnydd gydag asesiadau effaith ar yr iaith? (WAQ50603)

Jane Davidson: Rwyf yn bwriadu comisiynu prosiect ymchwil yn 2008 er mwyn gwerthuso profiad awdurdodau cynllunio lleol a rhanddeiliaid eraill o ran ystyried y Gymraeg yn y system gynllunio. Mae asesiadau effaith iaith yn rhan o’r broses honno. Bydd canlyniad y gwerthusiad yn darparu rhan o sail y dystiolaeth ar gyfer yr adolygiad o TAN 20. Disgwyliaf y bydd TAN diwygiedig drafft yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn 2009.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno’i gytundeb darparu ar gyfer ei Gynllun Datblygu Lleol ac, os felly, beth yw’r amserlen ar gyfer sicrhau cytundeb Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ50604)

Jane Davidson: Derbyniodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Cytundeb Cyflawni ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin ar 31ain Gorffennaf 2007. Cadarnhaodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei chytundeb â’r ddogfen ar 28ain Awst 2007, ac awgrymodd sawl newid er mwyn eglurhad, a chytunwyd arnynt wedi hynny ar 25ain Hydref 2007.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynyddu nifer y llwybrau seiclo mewn ardaloedd trefol? (WAQ50593) Trosglwyddwyd y cwestiwn i’w ateb gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Cyfrifoldeb awdurdodau priffyrdd lleol yw darparu cyfleusterau seiclo mewn ardaloedd trefol. O 1 Ebrill 2008 ymlaen byddaf yn sicrhau y bydd £10 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i ddatblygu a chreu llwybrau newydd diogel mewn prosiectau cymunedau.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i helpu mudiadau yn y gymuned i amddiffyn plant? (WAQ50612)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n gweithio gyda’r NSPCC i ddatblygu a threialu pecyn cymorth "Cymunedau Diogel" er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc mewn grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae’r pecyn cymorth, sy’n cael ei ariannu drwy’r Gronfa Loteri Fawr, wrthi’n cael ei dreialu mewn tair ardal awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr: Sir Ddinbych, Birmingham a Brent.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gyngor a gafodd cyn gwneud ei datganiad ar niwrolawdriniaeth gerbron y Cyfarfod Llawn ar 4ydd Gorffennaf 2007? (WAQ50632)

Edwina Hart: Cyn fy natganiad cefais drafodaethau ar y mater hwn gydag amrywiol bartïon ac adolygais y dystiolaeth sydd wedi cronni o ran y mater hwn dros bron i bedair blynedd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Gyda golwg ar Swyddfeydd Post yn derbyn arian gan Gronfa Datblygu Swyddfa’r Post, wrth gau, pa barti sy’n atebol i ad-dalu’r arian a dderbyniwyd o’r gronfa hon?(WAQ50590)

Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio (Leighton Andrews): Mae telerau ac amodau grant o dan Gynllun Cronfa Ddatblygu Swyddfa’r Post yn nodi, o gau swyddfa bost o fewn dwy flynedd (ar gyfer y ddau gylch ymgeisio cyntaf) neu bum mlynedd (ar gyfer y trydydd a'r pedwerydd cylch ymgeisio) i dderbyn y taliad grant terfynol, y bydd yn rhaid i dderbynnydd y grant (neu lle y bo’n gymwys y sawl y trosglwyddwyd y rhwymedigaethau a gynhwyswyd yn y cynnig grant iddo/iddi) ad-dalu’r grant o bosibl.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa hawliau cyfreithiol sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i adhawlio’r arian a roddwyd i swyddfeydd post o Gronfa Datblygu Swyddfa’r Post ac sydd wedi cau ar ôl hynny?(WAQ50592)

Leighton Andrews: Mae’r Telerau ac Amodau sy’n atodedig i grant o dan gynllun Cronfa Ddatblygu Swyddfa’r Post ac a dderbynnir gan dderbynnydd y grant yn nodi’n glir fod gan Weinidogion Cymru yr hawl i ofyn i ran o’r grant neu’r grant cyfan gael ei ad-dalu os bydd y gangen y mae’r cyllid yn ymwneud â hi yn cau o fewn dwy flynedd (ar gyfer y ddau gylch ymgeisio) neu bum mlynedd (ar gyfer grantiau sy'n fwy na £15,000 yn y trydydd a'r pedwerydd cylch ymgeisio) i ddyddiad y taliad grant olaf.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i effaith y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Post ar wasanaethau Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol yng Nghymru?(WAQ50601)

Leighton Andrews: Mae hwn yn fater annatganoledig a chyfrifoldeb yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio ydyw.