Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Hydref 2010 i’w hateb ar 05 Tachwedd 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth oedd y Gweinidog wedi'i ystyried wrth ddewis ardaloedd i dreialu'r ddau fodel o ofal deintyddol y cyfeirir atynt yn Natganiad Ysgrifenedig y Gweinidog a wnaed ar 20 Hydref 2010. (WAQ56703)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ystyriaeth a roddwyd i sir Benfro i dreialu'r ddau fodel o ofal deintyddol, ac ystyried amseroedd y rhestri aros yn y sir. (WAQ56704)
Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Comisiwn y Cynulliad amlinellu ei gynlluniau ar gyfer defnyddio lle gwag yn Adeilad y Pierhead. (WAQ56705)