Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Hydref 2012
i’w hateb ar 6 Tachwedd 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Faint o Gynghorwyr Arbennig a gyflogir yn yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau. (WAQ61486)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Ar gyfer pob un o’r pedair blynedd calendr diwethaf, a 2012 hyd yn hyn, a wnaiff y Gweinidog restru, fesul awdurdod lleol, nifer y ceisiadau cynllunio:
a) sydd wedi cael eu galw i mewn gan Weinidogion Cymru; a
b) sy’n destun cais galw i mewn. (WAQ61488)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Sawl gwaith y cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru ag AWEMA yn ystod y chwe mis yn dilyn yr adroddiadau ar AWEMA yn 2002 a 2004, ac yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cadeirydd bryd hynny yn 2007. (WAQ61489)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd yr amseroedd aros cyfartalog ar gyfer triniaeth IVF ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol yn ystod pob un o’r pum mlynedd diwethaf ar gyfer a) y cylch cyntaf; a b) yr ail gylch (os yw’n berthnasol). (WAQ61479)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyplau sydd wedi cael eu cyfeirio ar gyfer triniaeth IVF o bob Bwrdd Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn er 2007. (WAQ61480)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyplau sydd wedi cael eu cyfeirio ar gyfer triniaeth IVF yn Lloegr y mae GIG Cymru yn talu amdani ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ61481)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl cylch o IVF a gyllidwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol ym mhob blwyddyn er 2007. (WAQ61482)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru o ran cynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus yn dilyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai, o dan delerau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. (WAQ61483)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa asesiad a wnaed o effeithiolrwydd y gwerth £54 miliwn o gyllid a ddarparwyd i Awdurdodau Lleol rhwng 2005-06 a 2007-08 er mwyn rhoi’r broses cyflog statws sengl ar waith. (WAQ61484)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Faint o’r staff a gyflogir yn yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau sy’n cael eu cyflogi ar fandiau cyflog rheolwyr. (WAQ61485)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o faint o staff yn yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau sy’n cael amser o’r gwaith i gyflawni gweithgareddau/dyletswyddau sy’n ymwneud ag Undebau Llafur. (WAQ61487)