Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Chwefror 2012 i’w hateb ar 7 Mawrth 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn y datganiad a wnaed gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 21 Chwefror, pryd y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ysgrifenedig ynghylch cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i Selonda UK ac Anglesey Aquaculture. (WAQ59881)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynnal archwiliad neu ymchwiliad ffurfiol i'r modd y mae gweithredwyr y fferm bysgod yn Chwarel Penmon wedi defnyddio cyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. (WAQ59882)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gredyd, at ba ddibenion ac o dan ba delerau, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i Anglesey Aquaculture ac, ar wahân, i Selonda UK. (WAQ59881)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r modd y mae canllawiau gwrth-fwlio 2011 a ddarparwyd i ysgolion wedi cael eu rhoi ar waith. (WAQ59880)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pryd y bydd y Gweinidog yn cyhoeddi canlyniadau’r Ymarfer Anheddau Mentrau Gwledig, a pha welliannau gaiff eu gwneud i weithdrefnau monitro mewn blynyddoedd i ddod i leihau’r oedi wrth gyhoeddi canlyniadau ac i wella cydymffurfiaeth Awdurdodau Lleol. (WAQ59884)