Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 31 Mai 2013 i’w hateb ar 7 Mehefin 2013
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cynnal gyda Llywodraeth y DU am y diwygiadau arfaethedig i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU? (WAQ64816)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i gymorth cyfreithiol ar ddarparu’r gwasanaethau cyfreithiol hynny yng nghefn gwlad Cymru? (WAQ64817)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU? (WAQ64818)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud ar gyfer yr ymgynghoriad ar newidiadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU? (WAQ64819)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi’i wneud o’r defnydd o gerbydau limwsîn hir a diogelwch ar y ffyrdd? (WAQ64815)