Cyhoeddwyd 06/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 8 Mehefin 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sylwadau y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cyflwyno i’r Adran Masnach a Diwydiant ynghylch gohirio’r profion MOT cyntaf y mae cerbydau yn eu cael am flwyddyn? (WAQ50003)
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Brian Gibbons): Rwyf ar ddeall y bydd yr Adran Drafnidiaeth yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i drafod a ddylai’r DU symud oddi wrth y broses profi MOT bresennol. Bydd cyfle i’r rhai hynny sydd â diddordeb gynnig eu sylwadau ar p’un a fyddai trefniadau profi’r UE yn fwy addas ar gyfer y DU, gan ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu barn.
Cwestiynau i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddefnyddio’r weithdrefn newydd i wneud Mesurau Cynulliad? (WAQ50002)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Ar 6 Mehefin, cyhoeddodd y Prif Weinidog Fesur Arfaethedig y Cynulliad ar gyfer rhoi mwy o hawliau i gleifion drwy’r Mesur i Unioni Camweddau yn y GIG. Bydd hyn yn ei wneud yn haws i gleifion unioni camweddau yn y GIG a byddai’n pennu hawliau, prosesau a chanlyniadau newydd i gleifion.