Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Chwefror 2010 i’w hateb ar 09 Chwefror 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau p’un ai a all athro cyflenwi gael ei gyflogi’n gyfreithiol gan Awdurdod Addysg Lleol a chael ei dalu ar gyfradd fesul awr a bennir gan yr ysgol. (WAQ55578)
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi’r Rheoliadau Ffederaleiddio Ysgolion a Gynhelir. (WAQ55581) W
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog restru’r swm gwirioneddol y bydd pob Awdurdod Lleol yn ei gael o’r £2.75m a gyhoeddwyd yn ddiweddar i atgyweirio tyllau yn y ffordd ac a wnaiff gadarnhau bod y swm hwn yn ychwanegol at y £5m a gyhoeddwyd ar gyfer y Grant Cynnal a Chadw Ffyrdd Lleol yn Rhagfyr 2009. (WAQ55577)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer mentrau tai cydweithredol ecogyfeillgar at ddibenion rhentu. (WAQ55582)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am foratoriwm Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn cysylltiad â chau ysbytai. (WAQ55579)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i newid polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cau ysbytai. (WAQ55580)