Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Mehefin 2009 i’w hateb ar 9 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno rhaglen cinio ysgol am ddim yng Nghymru fel y gwelwyd yn ddiweddar yn yr Alban. (WAQ54306)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid y mae Network Rail wedi’i ddyrannu ar gyfer Rheilffordd y Cambrian. (WAQ54299)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid y mae Network Rail wedi’i wario ar Reilffordd y Cambrian. (WAQ54300)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddyrannu ar gyfer Rheilffordd y Cambrian. (WAQ54301)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar Reilffordd y Cambrian. (WAQ54302)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch p’un ai a oes cynnydd wedi’i wneud gyda chyd-Weinidogion y DU a gyda Gweithrediaeth yr Alban ynghylch cydgordio'r cynlluniau consesiynau bws yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ledled y Deyrnas Unedig. (WAQ54307)Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu’r canllawiau a roddwyd i Awdurdodau Lleol ynghylch darparu safleoedd sipsiwn/teithwyr. (WAQ54305)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog (a) restru’r amgueddfeydd a’r orielau a gefnogwyd yng Nghymru, yn ogystal â’r cymorth ariannol a ddyfarnwyd i bob un ohonynt, a (b) nifer yr ymwelwyr a ddenwyd i bob un dros y 12 mis diwethaf. (WAQ54303)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o bobl sydd wedi ymweld â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf. (WAQ54304)