Atebion a roddwyd i Aelodau ar 9 Gorffennaf 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pryd ddaeth y Gweinidog yn ymwybodol gyntaf nad oedd digon o gyllid cyfalaf ar gyfer y Ganolfan Gofal Critigol ac Arbenigol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwent? (WAQ54512)
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pryd ddaeth y Gweinidog yn ymwybodol nad oedd digon o gyllid ar gael i sicrhau’r Ganolfan Gofal Critigol ac Arbenigol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwent? (WAQ54513)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae’n anghywir dweud nad oes cyllid digonol ar gael ar gyfer y Ganolfan Gofal Arbenigol a Chritigol yng Ngwent. Ni wneir penderfyniad ffurfiol o ran ariannu tan fod cynllun busnes cadarn yn cael ei gyflwyno. Bydd cost cyfalaf y datblygiad arfaethedig yn sylweddol, ac asesir argaeledd cyllid yn erbyn cynigion cyllido ar gyfer prosiectau iechyd arfaethedig eraill ledled Cymru.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A oes cyflenwad digonol o’r brechlyn tamiflu er mwyn bod yn barod am y senario waethaf bosibl o ran achosion ffliw moch yng Nghymru? (WAQ54514)
Edwina Hart: Triniaeth wrthfirysol yw Tamiflu yn hytrach na brechlyn. Eisoes mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflenwad digonol o gyffuriau gwrthfirysol ar gyfer 50% o’r boblogaeth. Mae pedair gwlad y DU yn cynyddu eu cyflenwadau gyda’r nod o sicrhau digon o gyffuriau gwrthfirysol ar gyfer 80% o’r boblogaeth erbyn yr hydref. Rydym hefyd yn cynyddu cyflenwadau o gyffuriau gwrthfiotig sy’n gallu helpu i drin y problemau iechyd sy’n deillio o’r ffliw.
O ran brechlynnau A/H1N1, gosodwyd archebion gyda gweithgynhyrchwyr i sicrhau cyflenwad digonol i frechu holl boblogaeth y DU. Mae’r gyfradd y bydd brechiadau yn cael eu cynhyrchu a’u cyflenwi yn golygu y bydd angen blaenoriaethu. Felly rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau iechyd eraill y DU i gytuno ar ddull gweithredu cyffredin.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu cyfyngu dognau cyflenwadau tamiflu os bydd nifer fawr o achosion ffliw moch yng Nghymru? (WAQ54515)
Edwina Hart: Nid oes unrhyw gynlluniau i ddogni tamiflu. Fel y nodais yr wythnos diwethaf, rydym bellach wedi symud o’r cam cyfyngu i’r cam trin. Golyga hyn fod olrhain cysylltiadau, proffylacsis a chadarnhau achosion mewn labordai yn dod i ben ar unwaith. Mae hyn hefyd yn golygu canolbwyntio triniaeth wrthfirysol ar grwpiau sy’n wynebu risg, sy’n fwy tueddol o ddatblygu salwch neu gymhlethdodau difrifol, sef yr holl grwpiau sy’n wynebu risg o ffliw tymhorol, a menywod beichiog a phlant sy’n iau na 5 oed. Caiff cyffuriau gwrthfirysol eu rhoi i bobl sydd â’r ffliw nad ydynt yn y grŵp sy’n wynebu risg yn ôl disgresiwn meddygon. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dosbarthu cyffuriau gwrthfirysol i Fyrddau Iechyd Lleol o’r cyflenwad cenedlaethol ac yn datblygu system i alluogi cyflenwi cyffuriau gwrthfirysol i fferyllwyr cymunedol.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyfleusterau ar gyfer golchi gwisgoedd nyrsys yn ysbytai Cymru? (WAQ54517)
Edwina Hart: Mae Ymddiriedolaethau yn gweithio gyda swyddogion o ran cwmpasu’r cyfleusterau golchi dillad ar y safle presennol, cyflwynir Cod Gwisgoedd Cymru Gyfan yn ddiweddarach eleni, a bydd y cod gwisgoedd yn cynnwys canllawiau ar y ffordd orau o olchi dillad yn y cartref tra bod cyfleusterau’n cael eu datblygu. Rhoddir digon o wisgoedd i nyrsys/bydwragedd i’w galluogi i wisgo gwisg lân ar gyfer pob shifft.
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gost fesul gweithiwr y gwisgoedd newydd i nyrsys yn ysbytai Cymru? (WAQ54518)
Edwina Hart: Cynhaliwyd gwaith costio cychwynnol ar gyfer Gwisg Nyrsys Cymru gyfan, fodd bynnag, nid yw’r gost derfynol fesul cyflogai ar gael eto gan fod y broses gaffael ond wedi cychwyn yn ddiweddar ac nid yw’r contract wedi’i ddyfarnu hyd yma.
Darparwyd gwybodaeth am gost gyffredinol y gwisgoedd nyrsys cenedlaethol newydd yn WAQ54097.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pwy sy’n cynrychioli Cymru ar Grŵp Rhyng-Weinidogol y DU ar Drais Domestig? (WAQ54452)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Myfi yw cynrychiolydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Grŵp Rhyng-Weinidogol y DU ar Drais Domestig. Rwyf yn sicrhau bod Cymru’n derbyn y diweddaraf am y grŵp hwn drwy dderbyn yr holl bapurau a thrwy swyddogion sy’n cyflwyno adroddiadau ar ddatblygiadau drwy fynychu grŵp y swyddogion. Mae hyn yn sicrhau bod Cymru’n chwarae rhan bwysig mewn unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â mentrau nad ydynt wedi’u datganoli.
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith Grŵp Rhyng-Weinidogol y DU ar Drais Domestig yng Nghymru? (WAQ54453)
Brian Gibbons: Yn fy Natganiad Ysgrifenedig i’r Cabinet a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2009 dywedais ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar faterion sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod. Rwyf yn cadw mewn cysylltiad â gwaith Grŵp Rhyng-Weinidogol y DU ac mae hyn yn gyfle i sicrhau cydweithredu.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog nodi pa gysylltiadau ffurfiol sydd wedi’u sefydlu i gynorthwyo rhyngweithio rhwng ei adran ac UNESCO? (WAQ54504)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Deallaf fod y cysylltiadau ffurfiol rhwng UNESCO a Llywodraeth y Cynulliad drwy’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn hytrach na thrwy’r Adran Dreftadaeth.
Fodd bynnag, ymgysylltodd fy adran ag UNESCO yn arbennig yn ystod cais llwyddiannus diweddar Pontcysyllte am statws Treftadaeth y Byd, lle cynrychiolwyd Cadw ar Bwyllgor Llywio’r cais.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl eitem y mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi’u benthyca i amgueddfeydd ac orielau eraill yn y ddwy flynedd diwethaf, a pha amgueddfeydd ac orielau yw’r rhain? (WAQ54506)
Alun Ffred Jones: Amgaeaf y tabl canlynol sy’n dangos benthyciadau allanol Amgueddfa Cymru o fis Ebrill 2007 i fis Mawrth 2009. Benthyciwyd 24,970 o eitemau.
Sefydliad |
Nifer yr eitemau |
Oriel Gelf Abbott Hall, Kendall, Lloegr |
1 |
Orielau Adelson, Efrog Newydd |
1 |
Albertina, Fienna, Awstria |
1 |
Amgueddfa Ceredigion |
87 |
Amgueddfa Andover |
2 |
Oriel Gelf ac Amgueddfa (Glasgow) |
45 |
Cyngor Celfyddydau Cymru, Caerdydd |
5 |
Amgueddfa Awstralia, Sydney |
140 |
Sefydliad Celfyddyd Gain Barber, Prifysgol Birmingham |
26 |
Ymddiriedolaeth Ynys Enlli |
34 |
Gwaith Haearn a Chanolfan Dreftadaeth y Bers, Wrecsam |
2 |
Castell Bodelwyddan |
66 |
Amgueddfa Fotanegol Prifysgol Lund, Sweden |
37 |
Amgueddfa Brycheiniog |
14 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brighton |
6 |
Y Llyfrgell Brydeinig |
1 |
Cadw - Castell Cricieth |
8 |
Cadw - Baddonau’r Gaer |
19 |
Cadw - Plas Mawr |
21 |
Amgueddfa Goffa Capten Cook, Whitby |
1 |
Castell Caerdydd |
118 |
Amgueddfa Caerdydd |
1 |
Amgueddfa Caerfyrddin |
44 |
Amgueddfa’r Castell, Norwich |
407 |
Castell y Waun, Wrecsam |
3 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf y Ddinas, Stoke |
1 |
Amgueddfa Entomolegol Colorado, Colorado |
41 |
Amgueddfa Gelf Columbia, De Carolina |
58 |
Complesso del Vittoriano, Rhufain |
2 |
Amgueddfa Cwm Cynon |
77 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa |
2 |
De Lakenhal, Yr Iseldiroedd |
1 |
Pafiliwn De le Warr, Bexhill |
1 |
Yr Amgueddfa Ddylunio, Llundain |
56 |
Ysbyty Chwarel Dinorwig |
20 |
Amgueddfa’r Drenewydd, Ystrad Mynach |
96 |
Amgueddfa Edward Jenner, Swydd Gaerloyw |
1 |
Oriel Gelf Ferens, Hull |
1 |
Ffotogaleri, Caerdydd |
5 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur y Ffindir |
46 |
Oriel Flowers East, Llundain |
1 |
Sefydliad Beyeler, Basel, y Swistir |
2 |
Amgueddfa Geologisk, Copenhagen |
58 |
Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe |
17 |
Oriel Gelf Grave, Sheffield |
11 |
Dyffryn Maesglas - Ffermdy Cwm Llydan |
36 |
Dyffryn Maesglas - Ffermdy Pentre |
13 |
Ymddiriedolaeth Dyffryn Maesglas |
39 |
Tŷ Gregynog |
16 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd (Bangor) |
6 |
Amgueddfa Gwaith Dŵr Swydd Henffordd |
3 |
Amgueddfa Hunt, Limerick, Iwerddon |
2 |
Amgueddfa Hunterian, Prifysgol Glasgow |
44 |
Sefydliad Celfyddydau Gweledol Rhyngwladol, Llundain |
1 |
Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge, Telford |
1 |
Amgueddfa Bwthyn Joseph Parry, Merthyr Tudful |
33 |
Llety’r Barnwr, Llanandras |
223 |
Kettles Yard, Caergrawnt |
2 |
Amgueddfa Stêm Kew Bridge, Brentford |
27 |
Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli (Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa Tunplat) |
3 |
Kunsthalle, Zurich |
4 |
Oriel Gelf Laing, Newcastle upon Tyne |
9 |
Tŷ Lasynys (Ymddiriedolaeth Elusennol), Porthmadog |
8 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Caerlŷr |
17 |
Les Champes Libre, Rennes, Ffrainc |
1 |
Canolfan Treftadaeth Llanymddyfri |
309 |
Amgueddfa Llandudno |
16 |
Abaty Llantarnam |
2 |
Amgueddfa Lloyd George (Bwthyn Highgate) |
127 |
Amgueddfa Manceinion |
274 |
Parc Gwledig Margam |
54 |
Amgueddfa Dreftadaeth a Morol Aberdaugleddau |
2 |
Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel yr Wyddgrug (Daniel Owen) |
40 |
Musee d’Art Modern Ceret, Ffrainc |
1 |
Musee Malraux Le Havre. Ffrainc |
1 |
Musee Nationaux des Moyen Age Cluny, Paris |
2 |
Museo di Santa Giulia, Brescia, Yr Eidal |
11 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Tiriogaeth y Gogledd, Awstralia |
176 |
Museum National d’Histoire Naturelle, Paris |
270 |
Amgueddfa Gwisgoedd, Caerfaddon |
3 |
Amgueddfa Celfyddyd Gain Houston, Texas |
1 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur, Brwsel |
41 |
Amgueddfa Victoria, Melbourne, Awstralia |
106 |
Museum Voor Schone Kunsten, Ghent, Gwlad Belg |
4 |
Amgueddfa Natal |
53 |
Gardd Fotaneg Genedlaethol Gwlad Belg |
3,015 |
Yr Oriel Genedlaethol Llundain |
8 |
Oriel Genedlaethol Sweden |
6 |
Yr Oriel Genedlaethol, Washington |
3 |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
39 |
Yr Acwariwm Morol Cenedlaethol, Plymouth |
25 |
Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon |
1 |
Amgueddfa Genedlaethol Hanes Byd Natur (Yr Iseldiroedd) |
806 |
Amgueddfa Genedlaethol Hanes Byd Natur (Smithsonian), Washington |
158 |
Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Glannau Mersi |
71 |
Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban |
71 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Tŷ Aberconwy) |
104 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Cirencester) |
1 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Tolldy Conwy) |
80 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Castell Dinefwr) |
33 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd) |
24 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Tŷ Mawr Wybrnant) |
18 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur (Llundain) |
4,493 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur (Y Swistir) |
5 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur, Prifysgol Oslo |
828 |
Naturhistoriska Riksmuseet, Stockholm, Sweden |
6 |
Amgueddfa a Chanolfan Hanes Leol Nelson (Trefynwy) |
5 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd |
123 |
Amgueddfa Tecstilau’r Drenewydd |
13 |
Gwasanaeth Amgueddfeydd Gogledd Gwlad yr Haf |
3 |
Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd |
6 |
Oriel y Parc |
624 |
Oriel Ynys Môn |
6 |
Oriel Ynys Môn - Carchar Biwmares |
12 |
Oriel Ynys Môn - Bwthyn y Llywiwr |
2 |
Palazzo dei Diamanti, Ferrara, Yr Eidal |
2 |
Amgueddfa Doc Penfro |
1 |
Neuadd Tref Penfro |
3 |
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro (Castell Carew) |
9 |
Amgueddfa Philpott, Lyme Regis |
8 |
Castell Picton |
6 |
Pinocateca Nazionale, Bologna, Yr Eidal |
1 |
Plas Newydd, Dinbych |
29 |
Amgueddfa Pont-y-pŵl (Ymddiriedolaeth Amgueddfa Tor-faen) |
72 |
Amgueddfa Pontypridd |
4 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Poole |
2 |
Amgueddfa Porthcawl |
2 |
Y Castell Coch ym Mhowys |
1 |
Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn |
33 |
Princessehof, Yr Iseldiroedd |
12 |
Amgueddfa Gatrodol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Caernarfon |
17 |
Yr Ardd Fotaneg Frenhinol (Caeredin) |
1,760 |
Y Gerddi Botaneg Brenhinol (Kew) |
51 |
Academi Frenhinol Gymreig y Celfyddydau, Conwy |
8 |
Y Casgliad Brenhinol Llundain |
4 |
Amgueddfa Frenhinol Cernyw, Truro |
1 |
Canolfan Sainsbury, Norwich |
1 |
Oriel Samuel Osborne, Llundain |
16 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur Santa Barbara, Califfornia |
10 |
Yr Amgueddfa Wyddoniaeth, Llundain |
1 |
Amgueddfa Plasty Scolton, Sir Benfro |
581 |
Amgueddfa Rufeinig Segontium |
293 |
Amgueddfa Hedfan a Thrafnidiaeth Sharjah, Al Sharjah |
16 |
Amgueddfa Shugborough, Milford ger Stafford |
6 |
Abaty Singleton, Abertawe |
6 |
Amgueddfa Slezske, Y Weriniaeth Tsiec |
46 |
Llyfrgell Glowyr De Cymru, Abertawe |
4 |
Castell Sudeley, Swydd Gaerloyw |
1 |
Amgueddfa Abertawe |
5 |
Gwasanaeth Amgueddfeydd Abertawe |
2 |
Tate Prydain |
3 |
Tate Lerpwl |
1 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod |
7 |
Amgueddfa Hanes y Werin, Manceinion |
34 |
Amgueddfa Wladwriaethol Hanes Byd Natur a Hanes Diwylliannol, Honolulu, Hawaii |
84 |
Amgueddfa’r Tŷ Weindio, Tredegar Newydd |
47 |
Amgueddfa’r Transvaal, Pretoria, De Affrica |
2 |
Tŷ a Pharc Tredegar |
59 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur, Rhydychen |
6,957 |
Amgueddfa Sŵoleg y Brifysgol, Caergrawnt |
58 |
Amgueddfa Prifysgol Manceinion |
243 |
Oriel Gelf Walker, Lerpwl |
1 |
Casgliad Wallace, Llundain |
1 |
Amgueddfa Wallraf Richartz, Köln, Yr Almaen |
1 |
Amgueddfa Walters, Baltimore, UDA |
1 |
Amgueddfa’r Gatrawd Gymreig, Caerdydd |
42 |
Westfalischen Museum fur Archaologie, Herne, Yr Almaen |
16 |
Amgueddfa Tenis Lawnt Wimbledon |
1 |
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
209 |
Canolfan Celf Prydeinig Yale, New Haven, UDA |
1 |
Yr Amgueddfa Sŵolegol (Copenhagen) |
31 |
Cyfanswm |
24,970 |
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sawl eitem y mae Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi’u benthyca gan amgueddfeydd ac orielau eraill yn y ddwy flynedd diwethaf, a pha amgueddfeydd ac orielau yw’r rhain? (WAQ54507)
Alun Ffred Jones: Nodir manylion yr eitemau a fenthyciwyd gan Amgueddfa Cymru o fis Ebrill 2007 i fis Mawrth 2009 yn y tablau canlynol?
Yr Adran Archeoleg
Enw’r Amgueddfa a oedd yn rhoi benthyg |
Nifer yr eitemau 2007-8 |
Nifer yr eitemau 2008-9 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Bangor |
17 |
17 |
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin |
89 |
89 |
Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn |
942 |
942 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Bryste |
2 |
2 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
1 |
1 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd |
4 |
4 |
Yr Amgueddfa Brydeinig |
40 |
32 |
Amgueddfa Cas-gwent |
1 |
1 |
Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban |
3 |
3 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Hull |
48 |
48 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur, Llundain |
3 |
3 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur Prifysgol Rhydychen |
1 |
1 |
Amgueddfa Ashmolean, Rhydychen |
4 |
3 |
Amgueddfa’r Byd, Lerpwl |
1 |
1 |
Yr Arfdai Brenhinol |
3 |
3 |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
149 |
149 |
Cymdeithas Hynafiaethau Llundain |
8 |
2 |
Amgueddfeydd Dinas Glasgow |
1 |
0 |
Oriel Gelf Walker, Lerpwl |
0 |
1 |
Y Bathdy Brenhinol |
41 |
0 |
Cyfanswm yr Adran Archeoleg |
1,358 |
1,302 |
Yr Adran Gelf
Enw’r Amgueddfa a oedd yn rhoi benthyg |
Nifer yr eitemau 2007-8 |
Nifer yr eitemau 2008-9 |
Pinacoteca Nazionale Bologna |
1 |
0 |
Oriel Gelf Glynn Vivian |
1 |
1 |
Yr Oriel Genedlaethol, Llundain |
3 |
5 |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
0 |
11 |
Y Cyngor Crefftau |
0 |
14 |
Musée de Petit Palais, Paris |
0 |
3 |
Musée des Beaux Arts, Reims |
0 |
1 |
Kunstmuseum Bern |
0 |
1 |
Oriel Genedlaethol yr Alban |
0 |
1 |
Amgueddfa Wallraf Richartz, Köln |
0 |
1 |
Niedersachsisches Museum, Hannover |
0 |
1 |
Oriel Hayward |
0 |
150 |
Oriel Tate/Oriel Genedlaethol yr Alban |
0 |
69 |
Cyfanswm yr Adran Gelf |
5 |
258 |
Yr Adran Ddaeareg
Enw’r Amgueddfa a oedd yn rhoi benthyg |
Nifer yr eitemau 2007-8 |
Nifer yr eitemau 2008-9 |
Sefydliad Gwyddonol a Llenyddol Brenhinol Caerfaddon |
31 |
31 |
Arolwg Daearegol Prydain |
126 |
126 |
Amgueddfa Sedgwick, Caergrawnt |
1 |
1 |
Prifysgol Cymru, Prifysgol Caerdydd |
5 |
5 |
N.A.S.A. |
1 |
1 |
Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn |
1500 |
1500 |
Institut Royal des Sciences Naturelles de Belgique |
50 |
50 |
Anglesey Mining Co,. Cyf |
1 |
15 |
Grŵp Geochem, Caer |
3 |
3 |
Arolwg Daearegol Yr Ynys Las |
56 |
56 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur, Llundain |
1 |
1 |
Amgueddfa Lapworth, Birmingham |
15 |
15 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur Prifysgol Rhydychen |
19 |
19 |
Ymddiriedolaeth Orielau ac Amgueddfeydd Sheffield |
25 |
25 |
Sefydliad y Smithsonian, Amgueddfa Genedlaethol Hanes Byd Natur, Washington, UDA |
391 |
391 |
Bundesanstalt Fur Geowissenschaften und Rohstoffe |
0 |
1 |
Amgueddfa Sedgwick, Caergrawnt |
0 |
1 |
Cyfanswm yr Adran Daeareg |
2,225 |
2,241 |
Yr Adran Fioamrywiaeth a Bioleg Systematig
Enw’r Amgueddfa a oedd yn rhoi benthyg |
Nifer yr eitemau 2007-8 |
Nifer yr eitemau 2008-9 |
Sefydliad Alfred Wegener, Bremerhaven, Yr Almaen |
0 |
3 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur America, Efrog Newydd, UDA |
101 |
101 |
Coedardd Arnold, Prifysgol Harvard, UDA |
0 |
12 |
Amgueddfa Awstralia, Sydney |
0 |
300 |
Casgliad Pryfed Cenedlaethol Awstralia, CSIRO, Canberra |
100 |
0 |
Sefydliad Ymchwil Botanegol Texas/Prifysgol Methodistiaid y De |
20 |
0 |
Arolwg Prydeinig yr Antarctig |
7 |
7 |
Academi Gwyddoniaeth Califfornia, San Francisco |
0 |
30 |
Amgueddfa Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec, Prâg |
200 |
200 |
Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, Dulyn |
100 |
100 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur Field, Chicago |
23 |
25 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur Fflorida |
12 |
0 |
Gardd Fotaneg Genefa |
0 |
23 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Glasgow |
0 |
30 |
Prifysgol Harvard - Amgueddfa Sŵoleg Cymharol |
32 |
7 |
Amgueddfa Humboldt, Berlin, Yr Almaen |
250 |
250 |
Prifysgol Caerhirfryn |
2 |
0 |
Landcare Research Cyf, Seland Newydd |
500 |
500 |
Amgueddfa Dinas Caerlŷr |
10 |
0 |
Amgueddfa Manceinion |
0 |
50 |
Yr Amgueddfa Forafaidd, Brno, y Weriniaeth Tsiec |
150 |
150 |
Museu de Zoologia - Prifysgol São Paulo - São Paulo |
3 |
0 |
Museum fur Naturkunde, Berlin |
1 |
17 |
Muséum National d’Histoire Naturelle, Paris |
309 |
292 |
Nationaal Herbarium Nederland, Prifysgol Leiden, yr Iseldiroedd |
1 |
12 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur, Llundain |
907 |
1046 |
Amgueddfa Genedlaethol Tanzania, Amgueddfa Hanes Byd Natur |
73 |
73 |
Yr Amgueddfeydd Cenedlaethol, Lerpwl |
20 |
23 |
Amgueddfeydd Cenedlaethol Kenya - Nairobi |
9 |
9 |
Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban |
6 |
0 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur, Copenhagen: |
57 |
14 |
Naturalis, Leiden, yr Iseldiroedd |
4 |
207 |
Naturhistoriches Museum Basel |
1 |
0 |
Gardd Fotaneg Efrog Newydd |
11 |
0 |
Prifysgol Talaith Gogledd Carolina, UDA |
1000 |
1000 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur Prifysgol Rhydychen |
31 |
31 |
Canolfan Bioleg Morol Phuket |
3 |
23 |
Canolfan Gwyddor Amgylcheddol Robert A. Vines, Houston, Texas |
0 |
5 |
Sefydliad Brenhinol Gwyddorau Naturiol Gwlad Belg - Brwsel |
0 |
61 |
Yr Ardd Fotaneg Frenhinol, Caeredin |
0 |
13 |
Y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew |
0 |
35 |
Amgueddfa Frenhinol Affrica Ganol - Tervuren |
0 |
19 |
Gerddi Botaneg Singapôr |
22 |
6 |
Sefydliad y Smithsonian - Amgueddfa Genedlaethol Hanes Byd Natur |
100 |
301 |
Amgueddfa Hanes Byd Natur Sweden, Stockholm |
100 |
126 |
Prifysgol Amaethyddol a Thechnegol Texas |
0 |
30 |
Amgueddfa Sŵoleg y Brifysgol, Caergrawnt |
5 |
5 |
Prifysgol La Laguna - Tenerife |
0 |
2 |
Prifysgol Otago, Seland Newydd |
16 |
16 |
Prifysgol Texas yn Austin, Texas |
30 |
0 |
Prifysgol Uppsala |
20 |
0 |
Prifysgol Hanes Naturiol Warszawa, Gwlad Pwyl |
75 |
75 |
Zoologische Staatssammlung München |
5 |
5 |
Zoologisches Institut und Zoologisches Museum Der Universität Hamburg |
23 |
0 |
Cyfanswm yr Adran Fioamrywiaeth a Bioleg Systematig |
4,339 |
5,234 |
Yr Adran Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol
Enw’r Amgueddfa a oedd yn rhoi benthyg |
Nifer yr eitemau 2007-8 |
Nifer yr eitemau 2008-9 |
Amgueddfa Wrecsam |
1 |
1 |
Llyfrgell ac Amgueddfa Henffordd |
1 |
1 |
Cymdeithas Hynafiaethau Llundain |
1 |
1 |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
190 |
189 |
Llyfrgell Caerdydd |
13 |
13 |
Oriel Lighthouse Wolverhampton |
0 |
15 |
Cyfanswm yr Adran Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol |
206 |
220 |
Yr Adran Ddiwydiant
Enw’r Amgueddfa a oedd yn rhoi benthyg |
Nifer yr eitemau 2007-8 |
Nifer yr eitemau 2008-9 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinas Bryste |
1 |
1 |
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin |
2 |
2 |
Amgueddfa Glofa Cefn Coed |
8 |
8 |
Amgueddfa Drafnidiaeth Coventry |
2 |
2 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa |
6 |
6 |
Amgueddfa’r Magnelwyr Brenhinol |
1 |
1 |
Amgueddfa Gwasanaeth Tân ac Achub Llundain |
1 |
1 |
Amgueddfa Llundain |
7 |
4 |
Amgueddfa Gwyddoniaeth a Diwydiant Manceinion |
3 |
3 |
Amgueddfa Genedlaethol y Fyddin |
2 |
2 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd |
1 |
1 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Northampton |
1 |
1 |
Amgueddfa’r Llynges Brenhinol |
7 |
7 |
Amgueddfa’r Tanciau |
1 |
1 |
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
11 |
11 |
Oriel Gelf Glynn Vivian |
6 |
6 |
Amgueddfa Abertawe |
108 |
103 |
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
20 |
20 |
Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol |
1 |
1 |
Amgueddfa Slate Valley, Efrog Newydd |
0 |
1 |
Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Lloegr |
1 |
1 |
Amgueddfa Lofaol yr Alban, Glofa Fictoria |
1 |
1 |
Cyfanswm yr Adran Ddiwydiant |
191 |
184 |
Nifer yr eitemau 2007-8 |
Nifer yr eitemau 2008-9 |
|
Cyfanswm nifer |
8,324 |
9,439 |