Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Hydref 2009 i’w hateb ar 09 Hydref 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Faint o dderbyniadau brys i’r ysbyty a gofnodwyd yng Nghymru ar gyfer 1) cetoasidosis diabetig a 2) hypoglycaemia ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf, wedi’u dadansoddi fesul a) oed, b) rhyw, c) math o ddiabetes a d) bwrdd iechyd lleol. (WAQ54950)