09/10/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 05/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 October 2015 i'w hateb ar 9 Hydref 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn Gymraeg.

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pryd mae'r contract i fod yn bartner cyflenwi benthyciadau cychwyn busnes gyda Business in Focus yn dod i ben? (WAQ69229)

Derbyniwyd ateb ar 13 Hydref 2015

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Threfnidiaeth (Edwina Hart): The contract to deliver the start up loans is a commercial arrangement between Business in Focus and the Start Up Loans Company.