Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 03 Mawrth 2009 i’w hateb ar 10 Mawrth 20009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn gwybod faint o Brifysgolion Cymru sydd wedi datblygu 'polisïau buddsoddi moesegol’. (WAQ53629)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick Ramsay (Mynwy): Pa ganran o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth a Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru y mae’r sector gwirfoddol yn cyfrannu tuag ato. (WAQ53631)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyswllt rheilffordd cyflym rhwng Cymru a Llundain. (WAQ53632)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa welliannau a wnaethpwyd i Reilffordd Gororau Cymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53633)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion faint o arian y mae’n ei wario bob blwyddyn o gyllideb yr Economi a Thrafnidiaeth ar y trydydd sector - ac at ba ddiben. (WAQ53634)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o lwybrau ceffylau sydd wedi cael eu creu ym Mynwy o ganlyniad i gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru er 1999. (WAQ53630)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm nifer y triniaethau IVF a wnaethpwyd gan bob ymddiriedolaeth GIG ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf. (WAQ53626)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm cost y rhaglenni IVF i bob ymddiriedolaeth GIG ym mhob un o’r 3 blynedd diwethaf. (WAQ53627)