Atebion a roddwyd i Aelodau ar 10 Mehefin 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y datblygiadau diweddaraf i’r Academi Amddiffyn arfaethedig ar gyfer Bro Morgannwg? (WAQ51822)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Ar 31 Ionawr 2008, ailddatganodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei hymrwymiad i Becyn 1 (hyfforddiant ar beirianneg a TGCh) sy'n cael ei leoli yn Sain Tathan. Mae gwaith cynllunio a dylunio'n mynd rhagddo ar hyn o bryd rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, ei phartner yn y sector preifat, consortiwm Metrix a Llywodraeth Cynulliad Cymru i gytuno ar gynllun y safle ar gyfer yr Academi Hyfforddiant Amddiffyn arfaethedig a Pharc Busnes Awyrofod Llywodraeth y Cynulliad.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae ef a’i adran wedi’u cael ynghylch y mynediad presennol neu unrhyw fynediad newydd arfaethedig ar yr A40 yn Llangrwyne o’r datblygiad Cwrt y Gollenn? (WAQ51830)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Roedd y trafodaethau cychwynnol rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdod cynllunio, sef Cyngor Sir Powys, wedi canolbwyntio ar gynigion i godi trydedd fynedfa i'r safle rhwng y ddwy fynedfa bresennol. Nid oedd Trafnidiaeth Cymru'n fodlon â'r cynnig hwn am resymau'n ymwneud â diogelwch priffyrdd. Yn dilyn trafodaethau, cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig a oedd yn cynnig cau'r brif fynedfa bresennol i'r gwersyll a chodi mynedfa arall newydd i'r dwyrain. Bydd hyn yn sicrhau trefniant mwy diogel o ran y gyffordd, ac mae Trafnidiaeth Cymru'n fodlon â hyn mewn egwyddor ar yr amod bod mwy o fanylion yn cael eu darparu.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran darparu gwasanaethau bob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig? (WAQ51832)
Y Dirprwy Brif Weinidog: Bydd penderfyniad ynghylch gwasanaethau pellach yn cael ei wneud pan fydd y gwelliannau i'r seilwaith wedi'u cwblhau.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl sy’n ymadael â Chynllun Masnachu Hunangyflogaeth y Fargen Newydd? (WAQ51827)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig cymorth amrywiol i helpu pobl sy'n dewis bod yn hunangyflogedig. Mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gymorth busnes perthnasol ar gael drwy wasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnes Llywodraeth y Cynulliad ar 03000 603000 neu'r drwy'r wefan yn www.business-support-wales.gov.uk. Yn ogystal, bydd ein gwasanaeth dechrau busnes newydd, a ddarperir gan gontractwyr, yn dechrau ar 16 Mehefin. Bydd y gwasanaeth hwn, y gellir ei ddefnyddio trwy gysylltu â rhif y gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnes, yn cynnwys sesiynau cynghori, seminarau blasu, gweithdai, cymorth mentora ar gyfer busnesau newydd a chymorth i raddedigion sy'n dechrau busnes.
Yn ogystal, mae'r prosiect 'Yn Awyddus i Weithio' a gynhelir ar y cyd rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chanolfan Byd Gwaith Cymru yn darparu cymorth i bobl hunangyflogedig, ac mae wedi helpu tua 200 o bobl i fod yn hunangyflogedig hyd yn hyn - rhyw 9 y cant o gyfanswm y bobl sydd wedi cael budd o'r fenter.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i dynnu sylw at y peryglon y gallai pobl fynd yn sownd oherwydd y llanw yn ystod misoedd yr haf? (WAQ51829)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Nid yw cyfrifoldeb am ddiogelwch morol yn fater datganoledig, oherwydd mai cyfrifoldeb Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau y DU ydyw. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau, Gwylwyr y Glannau EM ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer y rhai sy'n mynd i'r traeth er mwyn eu hannog i fwynhau'r traeth a'r môr yn ddiogel yn rhan o'r ymgyrch Call am y Môr (www.mgca.gov.uk/seasmart).
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n parhau i gefnogi'r fenter Môr Glas, sef partneriaeth o dros 40 o gyrff sy'n annog pobl i ddefnyddio ardaloedd arfordirol yn ddiogel. Fis diwethaf, cyflwynais wobrau Baner Las 2008 i 42 o draethau a 5 marina yng Nghymru. Yn ogystal â bodloni'r safonau caeth mewn perthynas â'r tir ac ansawdd y dŵr sy'n ofynnol o dan wobr y Faner Las, mae'n rhaid i'r traethau hyn fodloni meini prawf sy'n ymwneud â diogelwch hefyd, megis darparu offer achub bywyd a gwybodaeth am ddiogelwch ar y traeth.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddatblygu strategaeth nyrsio cymunedol ac os felly, pryd y caiff ei chyhoeddi? (WAQ51828)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Rwyf wedi gofyn i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol gael ei sefydlu i ddatblygu strategaeth nyrsio cymunedol.
Cadeirydd y grŵp fydd Richard Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro Coleg Brenhinol y Nyrsys.
Bydd cytundeb yn cael ei sicrhau ynghylch cwmpas y Strategaeth Nyrsio Cymunedol, a byddaf yn cael adroddiad yn ei chylch erbyn diwedd Gorffennaf.
Dylai'r Strategaeth gael ei chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.