Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 03 Rhagfyr 2007 i’w hateb ar 10 Rhagfyr 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am forlynnoedd llanw yng Nghymru. (WAQ50787)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am brosiectau llif llanw yng Nghymru. (WAQ50786)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pryd fydd y contract gwasanaeth deintyddol cymunedol newydd yn cael ei roi ar waith yng Nghymru. (WAQ50785)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y contract gwasanaeth deintyddol cymunedol i ddeintyddion cymunedol yng Nghymru. (WAQ50784)