10/12/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Rhagfyr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 10 Rhagfyr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o ysgolion sydd wedi cau yn a) Sir Benfro, b) Ceredigion, c) Gwynedd, d) Powys ac e) Sir Gaerfyrddin ym mhob blwyddyn er 2006. (WAQ55248)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Ceir manylion nifer yr ysgolion a gaewyd rhwng 2006 a 2009 yn gynhwysol ym mhob un o'r ardaloedd awdurdod lleol a enwir yn y tabl isod. Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys achosion o gau o ganlyniad i uno ysgolion babanod ac ysgolion cynradd ar wahân. O gyfanswm nifer yr achosion o gau a restrwyd (26), cafwyd gwrthwynebiadau mewn perthynas â 12, ac felly penderfynodd y gweinidog ar yr achosion hynny.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Rhagfyr 2009
 

2006

2007

2008

2009

Sir Benfro

1

2

-

1

Ceredigion

2

4

-

1

Gwynedd

-

-

-

3

Powys

1

-

2

3*

Sir Gaerfyrddin

1

3

-

2

Cyfanswm

5

9

2

10

(*yn cynnwys un ysgol fydd yn cau ar 31 Rhagfyr 2009)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ystadegau diogelwch y ffyrdd ar gyfer cefnffyrdd yn a) Sir Benfro, b) Ceredigion, c) Gwynedd, d) Powys ac e) Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar ei chyfer. (WAQ55246)

Rhoddwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2009

Ym mhob un o'r ardaloedd Awdurdod Lleol roedd yr ystadegau ar gyfer 2008 yn is na'r cyfartaledd blynyddol priodol.

Mae'r tabl isod yn dangos ystadegau 2008 ar gyfer pob un o'r Awdurdodau Lleol y gofynnwyd amdanynt, ynghyd â'r cyfartaleddau blynyddol dros y cyfnod pum mlynedd 2004-08.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Rhagfyr 2009

Awdurdod Lleol

Damweiniau

Anafiadau

       
 

2008

Cyfartaledd 2004-08

% lleihad

2008

Cyfartaledd 2004-08

% lleihad

Sir Benfro

94

96.8

2.9%

143

153.4

6.8%

Ceredigion

96

103.8

7.5%

134

160.2

16.4%

Gwynedd

86

106.2

19.0%

141

175.6

19.7%

Powys

204

252.8

19.3%

333

404.2

17.6%

Caerfyrddin

109

130.2

16.3%

155

196.4

21.1%

Cyfanswm

589

689.8

14.6%

906

1089.8

16.9%

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i roi sylw i ddiweithdra yn a) Sir Benfro, b) Ceredigion, c) Gwynedd, d) Powys ac e) Sir Gaerfyrddin. (WAQ55247)

Rhoddwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2009

Mae fy Adran yn gyfrifol am greu fframwaith cadarn ar gyfer creu busnesau yng Nghymru a sicrhau eu twf, yn ogystal â chefnogi prosiectau busnes penodol sy'n diogelu neu'n cynyddu cyflogaeth.

Er mwyn sicrhau bod y fframwaith mor effeithiol â phosibl, cyhoeddais fanylion y Rhaglen Adfywio Economaidd yn ddiweddar.  Gan obeithio bod yr adferiad economaidd ar ddod, bydd y rhaglen hon yn nodi'r mesurau gorau ar gyfer annog economi gryfach, fwy cynaliadwy, helpu busnesau i fynd i'r afael â her newid yn yr hinsawdd, a gwella lles hirdymor pobl Cymru.

Cefnogir prosiectau busnes unigol gan Gronfa Fuddsoddi Sengl y Cynulliad drwy'r rhwydwaith Cymorth Hyblyg i Fusnes.  Hyd yma yn 2009/10, mae fy Adran wedi cefnogi 215 o brosiectau yn y pum Awdurdod Unedol hyn, y disgwylir iddynt arwain at greu neu ddiogelu 1,209 o swyddi, gyda buddsoddiad sector preifat o £27.5 miliwn.

Mae busnesau hefyd yn cael cymorth o'r gronfa arloesol JEREMIE gwerth £150m, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ehangu dros 800 o fusnesau bach, gan annog twf economaidd rhanbarthol a chreu hyd at 15,000 o swyddi ledled Cymru.  

Mae fy Adran hefyd yn helpu i gyflwyno rhaglenni APADGOS sydd â'r nod o ddiogelu swyddi a gwella sgiliau megis Rhaglen Datblygu'r Gweithlu, ProAct a ReAct.  

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer yr a) marwolaethau, b) anafiadau difrifol ac c) mân anafiadau ar gefnffyrdd ym mhob sir yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. (WAQ55251)

Rhoddwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2009

Mae'r tablau isod yn dangos y ffigurau ar gyfer marwolaethau, anafiadau difrifol a mân anafiadau ar gyfer pob sir yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru am gyfnod o bum mlynedd o 1 Ionawr 2004 i 31 Rhagfyr 2008, sef y dyddiad diweddaraf sydd ar gael.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Rhagfyr 2009

Anafiadau Cyngor Sir Powys

       

 

ANGHEUOL

DIFRIFOL

MÂN ANAFIADAU

CYFANSWM

2004

11

69

338

418

2005

17

81

289

387

2006

17

59

369

445

2007

20

71

347

438

2008

5

55

273

333

Cyfanswm

70

335

1,616

2,021

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Anafiadau Cyngor Sir Penfro

       

 

ANGHEUOL

DIFRIFOL

MÂN ANAFIADAU

CYFANSWM

2004

1

20

126

147

2005

2

14

126

142

2006

3

24

137

164

2007

2

25

144

171

2008

2

27

114

143

Cyfanswm

10

110

647

767

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi i Awdurdodau Lleol yng Nghymru yng nghyswllt archwilio pa mor addas ar gyfer ffyrdd yw pontydd, ac a wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw ganllawiau o’r fath. (WAQ55250)

Rhoddwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2009

Caiff pob strwythur cefnffordd a phriffordd yng Nghymru ei archwilio yn unol â Safon BD63/07 "Archwilio Strwythurau Priffyrdd". Mae hon yn weithdrefn ofynnol ar bob cefnffordd a Phriffordd. Yr Awdurdod Lleol priodol sy'n gyfrifol am strwythurau ar ffyrdd Awdurdodau Lleol. Yn ystod y tywydd gwael diweddar, rhannodd Swyddogion fanylion y camau a gymerir o ran strwythurau cefnffyrdd gyda phob Awdurdod Lleol. Yn eu tro gofynnwyd iddynt hwy gadarnhau eu sefyllfa. O'r ymatebion a gafwyd, roedd pob Awdurdod Lleol yn rheoli ei strwythurau priffyrdd yn unol â'r gweithdrefnau.

Leanne Wood (Canol De Cymru): Yng nghyswllt ei chyfrifoldeb trawsbynciol dros ddatblygu cynaliadwy, a wnaiff y Gweinidog a) roi manylion faint o gyfarfodydd mae wedi’u cynnull (neu eu cynnal os yw hynny’n well gennych) er 2007 i drafod swyddogaeth yr Iaith Gymraeg fel rhan o’r agenda cynaliadwyedd, a b) rhoi manylion y cyfarfodydd hyn. (WAQ55259) [W]

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Fel rhan o'r broses o ddatblygu Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru, cafwyd cyfres o drafodaethau Cabinet ynghylch y ddogfen.  Cyn cynnal y cyfarfodydd hyn cafodd pob adran gyfle i gynnig sylwadau am y cynllun, gan gynnwys yr Adran Dreftadaeth (sy'n gyfrifol am bolisi Iaith Gymraeg).

Fel rhan o'r broses ymgynghori ffurfiol cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau yn Abertawe, Llandudno ac Aberystwyth rhwng 19 Tachwedd 2008 a 4 Chwefror 2009.  Rhoddodd y digwyddiadau gyfle i roi adborth ar y ddogfen ymgynghori ddrafft.  Er nad oedd yr iaith Gymraeg yn elfen benodol o'r trafodaethau, codwyd y mater gan nifer o'r bobl a ddaeth i'r digwyddiadau hyn.

Roedd sylwadau gan rai o'r ymatebwyr yn dadlau nad oedd pwysigrwydd yr iaith Gymraeg wedi ei bwysleisio ddigon, a bod angen cyfeirio at Iaith Pawb.  Ymatebodd swyddogion i hyn drwy ddiwygio'r ddogfen i gryfhau rôl a phwysigrwydd yr iaith ac i gyfeirio'n briodol at Iaith Pawb.

Leanne Wood (Canol De Cymru): Yng nghyswllt ei chyfrifoldeb trawsbynciol dros ddatblygu cynaliadwy, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yng Nghynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru - Cymru’n Un:Cenedl Un Blaned. (WAQ55260) [W]

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Fel rhan o'i weledigaeth ar gyfer lles Cymru, mae Cynllun Datblygu Cynaliadwy Cymru, Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned yn cynnwys yr uchelgais i ni gyflawni "Cymru deg, gyfiawn a dwyieithog, lle y caiff dinasyddion o bob oedran a chefndir eu grymuso i benderfynu ar natur eu bywydau eu hunain, llywio eu cymunedau a chyflawni eu potensial llawn."  Un o'r prif ganlyniadau sy'n deillio o hyn yw y "caiff diwylliant, gwerthoedd a thraddodiadau cyfoethog Cymru eu dathlu, yn enwedig drwy annog amrywiaeth, natur unigryw a hyrwyddo’r Gymraeg...".

Bydd y dull hwn o weithredu yn seiliedig ar Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog sy'n gosod y nod o adfywio’r Gymraeg a chreu Cymru ddwyieithog.  Arweinir llawer o'r gwaith hwn gan y Gweinidog dros Dreftadaeth a bydd y gwell cymhwysedd deddfwriaethol yn caniatáu i Lywodraeth Cynulliad Cymru gynnig Mesur a fyddai'n cynnwys darpariaeth i ddiogelu rhyddid unigolion i siarad Cymraeg â'i gilydd. Byddai hyn yn bodloni ymrwymiadau 'Cymru'n Un', sef:

• Cadarnhau bod y Gymraeg a Saesneg yn ieithoedd swyddogol;

• Pennu hawliau o ran darpariaeth gwasanaethau;  

• Sefydlu swydd Comisiynydd Iaith.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cynnig i Fyrddau Iechyd Lleol ynghylch darparu Therapi Lleferydd ac Iaith i gleifion strôc, yn enwedig yng nghyswllt amseroedd aros ar gyfer therapi o’r fath ar ôl strôc, ac os na chynigir canllawiau, a wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch a yw’n bwriadu darparu hyn. (WAQ55252)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Ni chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau ffurfiol gan Lywodraeth y Cynulliad o ran darparu therapi lleferydd ac iaith, ac nid oes amseroedd aros ffurfiol ar waith ar gyfer therapi yn dilyn strôc.  Rhaid i gynlluniau gweithredu Byrddau Iechyd Lleol sicrhau yr asesir anghenion adsefydlu acíwt a hirdymor pob claf strôc, yn cynnwys anghenion o ran therapi lleferydd ac iaith, i sicrhau bod cynlluniau gofal wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion cleifion unigol.  Yna dylai unrhyw therapi lleferydd ac iaith ddechrau yn unol â gofynion y cynllun gofal.   

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd ar hyfforddi meddygon iau yng Nghymru. (WAQ55253)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Addaswyd anghenion hyfforddi meddygon iau gan y cyrff proffesiynol i gydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd.

Rhaid i Fyrddau Iechyd sicrhau bod pob meddyg iau yn cael yr hyfforddiant gofynnol, a'u bod yn destun monitro rheolaidd gan y Bwrdd Addysg a Hyfforddiant Meddygol Ôl-raddedig. Os tybir bod diffyg yn yr hyfforddiant a ddarperir, mae'r Deoniaeth Ôl-raddedig yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd priodol i fynd i'r afael â'r mater hwn a chymryd y camau adferol angenrheidiol.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa wybodaeth a gesglir am bellteroedd i unedau mamolaeth yng Nghymru. (WAQ55256)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio 'MapInfo Drivetime', sef System Gwybodaeth Ddaearyddol, i gyfrifo'r pellter ar hyd y rhwydwaith ffyrdd i unedau mamolaeth. Caiff map i ddangos hyn ei gynnwys yn y datganiad ystadegol Ystadegau Mamolaeth nesaf a gyhoeddir ym mis Chwefror 2010.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu gwasanaethau strôc yn Ne Powys. (WAQ55257)

Rhoddwyd ateb ar 10 Rhagfyr 2009

Mater i BILl Addysgu Powys yw gwasanaethau strôc De Powys.  Mae'n ofynnol i bob BILl gael cynlluniau gweithredu cadarn ar waith er mwyn dangos y llwybr i gydymffurfiaeth lawn â safonau cenedlaethol. Rwyf wedi sicrhau bod cyfanswm o £2.275m ar gael i'r GIG yng Nghymru i gefnogi gwelliannau i'r gwasanaethau strôc. Ym Mhowys, defnyddir yr arian hwn i wella gwasanaethau adsefydlu hirdymor arbenigol.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gynnydd y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ar sefydlu Cronfa Arloesedd Gwledig fel y nodir yn yr ymgynghoriad Cynllunio Iechyd Gwledig. (WAQ55258)

Rhoddwyd ateb ar 22 Rhagfyr 2009

Yn fy natganiad ar 9 Rhagfyr 2009, sy'n nodi fy mlaenoriaethau o ran gwariant, gwneuthum gadarnhau y dyrannwyd £1 miliwn ar gyfer y Gronfa Arloesi Iechyd Gwledig.  Un o dasgau cyntaf y Grŵp Gweithredu Iechyd Gwledig, a sefydlir yn y flwyddyn newydd, fydd pennu meini prawf a chanllawiau ar gyfer y Gronfa.

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o dwristiaid yng Nghymru sydd wedi ymweld â Chymru ym mhob blwyddyn er 2006 a pha asesiad a wnaethpwyd o’u profiadau. (WAQ55249)

Rhoddwyd ateb ar 10 Rhagfyr 2009

Dangosir nifer yr ymwelwyr a ddaeth i Gymru bob blwyddyn ers 2006 isod.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Rhagfyr 2009
 

2006

2007

2008

Y DU

9.61m

8.85m

8.49m

Tramor

1.14m

0.99m

1.07m

CYFANSWM

10.75m

9.84m

9.56m

Ffynonellau:  Arolwg Twristiaeth y Deyrnas Unedig ac Arolwg Teithwyr Rhyngwladol. Mae'r ffigyrau'n cyfeirio at ymwelwyr sy'n aros ac nid ydynt yn cynnwys ymwelwyr diwrnod.

Caiff profiadau ymwelwyr eu hasesu bob tair blynedd pan gynhelir Arolwg Ymwelwyr sy'n gofyn i ymwelwyr werthuso gwahanol agweddau ar eu harhosiad yng Nghymru ar raddfa o 1 i 5, gyda 5 fel y mwyaf cadarnhaol.  Dangosir canlyniadau'r arolwg diweddaraf a gynhaliwyd yn 2006 isod.  Ar hyn o bryd mae Arolwg Ymwelwyr 2009 yn cael ei ddadansoddi a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi ym mis Ionawr.

Arolwg Ymwelwyr Cymru 2006

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Rhagfyr 2009

Ansawdd llety

4.1

Cyfeillgarwch y bobl

4.3

Atyniadau ymwelwyr

4.1

Boddhad yn gyffredinol

4.2

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith arbedion yn y gyllideb yn y dyfodol, gan Awdurdodau Lleol, ar ymrwymiadau Cymru’n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru i gaffael mwy o fwyd yn lleol. (WAQ55254)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Mae'r setliad refeniw llywodraeth leol ar gyfer 2010-11 a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar 8 Rhagfyr yn darparu cynnydd o 2.1 y cant i lywodraeth leol, sy'n uwch na chyfradd chwyddiant.  Mae hwn yn setliad teg a rhesymol yn yr hinsawdd ariannol bresennol ac yn dangos yn glir benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi gwasanaethau llywodraeth leol mewn amgylchiadau anodd.

Yn ogystal, mae'r Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol a lansiwyd yn ddiweddar yn amlinellu nifer o fentrau a fydd yn cefnogi cynnydd o ran faint o fwyd lleol a gaffaelir gan awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae fy swyddogion o fewn yr Is-adran Datblygu Bwyd, Pysgod a'r Farchnad yn cyflwyno'r cynllun mewn cydweithrediad â Gwerth Cymru a chyrff eraill i sicrhau y rhoddir y cyfle gorau i gaffael bwyd lleol o fewn sefydliadau sector cyhoeddus.  

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i rhoi i ohirio cyflwyno’r cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir. (WAQ55255)

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflwyno cynllun Glastir erbyn mis Ionawr 2012.