11/02/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Chwefror 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Chwefror 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru nifer yr ymosodiadau ar staff dysgu a gofnodwyd yn ysgolion Cymru bob blwyddyn er 1999? (WAQ51149)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Ni chaiff gwybodaeth am ymosodiadau ar staff addysgu ei chasglu yn ganolog.

Noda canllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddefnyddio grym rhesymol i rwystro neu reoli disgyblion y dylai ysgolion gadw cofnod o bob achos lle bu’n rhaid i staff rwystro disgyblion er eu diogelwch eu hunain neu er diogelwch pobl eraill. Dylid defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio ac osgoi achosion pellach o fewn ysgolion.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r farn bod ymosodiadau treisgar ar staff addysgu yn fater difrifol iawn ac o ganlyniad i hyn comisiynwyd adolygiad cenedlaethol o ymddygiad a phresenoldeb, sydd i’w gyhoeddi ym mis Ebrill 2008. Rhan o gylch gwaith yr adolygiad yw ystyried sut y gellir paratoi staff ysgolion yn well ar gyfer osgoi ac ymdrin ag achosion o ymddygiad eithafol fel trais. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried argymhellion yr Adroddiad ar yr agwedd hon yn ofalus.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y lleoedd sydd dros ben mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru? (WAQ51150)

Jane Hutt: Lluniwyd y tabl canlynol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o wybodaeth a gyflwynwyd gan bob awdurdod lleol. Mae’n dangos cyfanswm y lleoedd heb eu llenwi mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. (Mae gan bob awdurdod rai ysgolion sy’n orlawn hefyd.) Nid yw pob lle heb ei lenwi yn lle gwag, gan fod angen cadw rhai lleoedd dros ben er mwyn caniatáu amrywiadau yn y boblogaeth, ac ni ellir gwaredu pob lle gwag yn effeithiol. Er hyn, dylai awdurdodau anelu at ddim mwy na 10% o leoedd gwag, yn gyffredinol, a byddai angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r opsiynau o weithredu pan fo gan ysgolion unigol lawer o leoedd gwag (h.y. dros 25% ac o leiaf 30 o leoedd gwag).

Lleoedd Heb eu Llenwi Mewn Ysgolion : Ionawr 2007

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Chwefror 2008

 

 

Cynradd

 

 

Uwchradd

 

Awdurdod Addysg Lleol

Cyfanswm y lleoedd mewn ysgolion

Nifer y lleoedd heb eu llenwi

Canran y cyfanswm sy’n lleoedd heb eu llenwi

Cyfanswm y lleoedd mewn ysgolion

Nifer y lleoedd heb eu llenwi

Canran y cyfanswm sy’n lleoedd heb eu llenwi

Ynys Môn

6,520

1,489

22.8

5,530

1,149

20.8

Blaenau Gwent

6,781

1,414

20.9

5,837

1,026

17.6

Pen-y-bont ar Ogwr

11,432

777

6.8

11,428

1,822

15.9

Caerffili

16,928

2,324

13.7

14,767

2,073

14.0

Caerdydd

29,061

4,850

16.7

25,646

4,420

17.2

Sir Gaerfyrddin

19,346

5,608

29.0

14,159

1,966

13.9

Ceredigion

6,715

1,777

26.5

6,323

1,267

20.0

Conwy

9,958

2,069

20.8

9,358

1,751

18.7

Sir Ddinbych

8,754

1,521

17.4

8,184

506

6.2

Sir y Fflint

14,336

2,328

16.2

11,964

1,313

11.0

Gwynedd

11,862

2,693

22.7

8,707

1,204

13.8

Merthyr Tudful

5,268

712

13.5

5,366

1,104

20.6

Sir Fynwy

7,644

1,211

15.8

5,728

344

6.0

Castell-nedd Port Talbot

12,333

2,190

17.8

10,714

1,726

16.1

Casnewydd

13,646

1,700

12.5

10,647

329

3.1

Sir Benfro

10,555

1,052

10.0

9,256

757

8.2

Powys

13,344

2,900

21.7

10,737

1,811

16.9

Rhondda Cynon Taf

24,222

4,929

20.3

23,827

5,334

22.4

Abertawe

20,771

3,467

16.7

17,387

2,697

15.5

Tor-faen

8,780

1,472

16.8

8,644

730

8.4

Bro Morgannwg

11,713

1,386

11.8

10,291

711

6.9

Wrecsam

13,074

2,896

22.2

8,971

2,006

22.4

             

Cymru

283,043

50,765

17.9

243,471

36,046

14.8

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl digwyddiad yn ymwneud â chyllyll a gofnodwyd yn ysgolion ledled Cymru bob blwyddyn er 1999? (WAQ51153)

Jane Hutt: Ni chaiff nifer yr achosion yn ysgolion Cymru sy’n ymwneud â chyllyll ei gasglu’n ganolog.

Mae adran 42 o Ddeddf Lleihau Troseddau Treisgar 2006 yn darparu pŵer newydd i benaethiaid chwilio disgybl y maent yn amau, yn rhesymol, ei fod yn cario cyllell neu arf arall neu fod ganddo gyllell neu arf arall yn ei feddiant. Gall unrhyw ysgol sy’n amau bod disgybl yn cario cyllell ddewis cynnal eu chwiliad eu hunain neu alw’r heddlu i wneud hynny.

Nid yw adran 42 mewn grym yng Nghymru eto. Bwriadaf ymgynghori ar ba bryd y dylid cyflwyno adran 42 ac ar ganllawiau cysylltiedig, yn Nhymor yr Haf 2008.

Dymunaf sicrhau y gall penaethiaid yng Nghymru feithrin awyrgylch lle gall pob aelod o gymuned yr ysgol ffynnu a theimlo’n ddiogel ac fel y caiff ei barchu; a bod ganddynt y pwerau cyfreithiol i wneud hynny. Mater ar gyfer y corff llywodraethu a’r pennaeth fydd penderfyniadau ynghylch yr hyn sy’n briodol ar gyfer ysgol unigol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cyfartaledd dyledion myfyrwyr yng Nghymru bob blwyddyn er 1999? (WAQ51155)

Jane Hutt: Cyflwynodd Arolwg Incwm a Gwariant Myfyrwyr 2004/05 y ffigurau cadarn cyntaf ar fesurau cyffredinol yn ymwneud â chyllid myfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru. Datblygwyd yr arolwg er mwyn gallu dadansoddi incwm a gwariant myfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru ar wahân am y tro cyntaf a rhagfynegwyd y bydd dyled myfyrwyr ymysg myfyrwyr amser llawn yn eu blwyddyn olaf oddeutu £7,650 erbyn diwedd eu cwrs.

Roedd maint y sampl yn dal yn rhy fach i ddarparu amcangyfrif cadarn ar gyfer myfyrwyr rhan amser. Ymddengys fod myfyrwyr rhan amser, yn gyffredinol, yn well eu byd na myfyrwyr amser llawn, gyda mwy o gynilion na benthyciadau.

Mae’r arolwg diweddaraf o incwm a gwariant myfyrwyr 2007/08, ar y gweill, gyda sampl mwy o fyfyrwyr sy’n preswylio yng Nghymru. Disgwylir i adroddiad yr arolwg gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2008.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o blant sy’n byw yng Nghymru sy’n cael eu haddysg yn Lloegr? (WAQ51156)

Jane Hutt: Dengys gwybodaeth a ddarparwyd gan yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd fod 1,950 o ddisgyblion sy’n byw yng Nghymru yn cael eu haddysg mewn ysgolion a gynhelir gan AALl yn Lloegr ym mis Ionawr 2007.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gostau gweinyddol ei hadran bob blwyddyn er 1999? (WAQ51157)

Jane Hutt: Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol, sy’n rheoli cyllideb y Weinyddiaeth Ganolog ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ysgrifennu atoch mewn ymateb i’r cwestiwn hwn.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad yng Nghymru bob blwyddyn er 1999? (WAQ51193)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Nodir y wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y tabl isod:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Chwefror 2008

BLWYDDYN*

NIFER Y CCNCau/CNLCau

1999

19

2000

16

2001

15

2002

15

2003

15

2004

15

2005

16

2006

12

2007

12

* ar 31 Mawrth

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian sydd yn y gyllideb ar gyfer cynnal a chadw adeiladau Llywodraeth Cynulliad Cymru ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008/09? (WAQ51200)

Andrew Davies: Mae’r gyllideb a ragwelir ar gyfer atgyweirio, gwasanaethu a chynnal a chadw ystad weinyddol Llywodraeth y Cynulliad oddeutu £3.5m yn 2008-2009. Mae hyn yn rhan o’r Gyllideb Gwariant Gweinyddol Cyffredinol o fewn Prif Grŵp Gwariant y Weinyddiaeth Ganolog.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o arian sydd yn y gyllideb ar gyfer adeiladu adeiladau Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008/09? (WAQ51202)

Andrew Davies: Y dyraniadau cychwynnol a gaiff eu cynnwys yn llinellau sylfaen y Weinyddiaeth Ganolog ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yw £3.5m refeniw a £5m cyfalaf. Mae proffil manwl o weddill costau cyfalaf yr adeilad yn Aberystwyth wrthi’n cael eu paratoi ac unwaith i’r proffil gael ei gadarnhau, hwn fydd sail y gyllideb gyfalaf lawn. Mae’r gwaith proffilio hwn yn seiliedig ar gost targed yr adeiladu o £20.5m ar ôl TAW a gyhoeddwyd ynghynt.

Fel y gwyddoch, rydym ar fin dechrau’r broses o ailgaffael y gwaith o adeiladu Adeilad Cyffordd Llandudno ac er bod gennym ffigur cyllideb mynegol, byddai datgelu’r amcangyfrif hwnnw yn amhriodol am resymau masnachol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Ramsay (Mynwy): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gan Lywodraeth y DU am orchmynion Seneddol i gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled y DU? (WAQ51127)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ni chefais unrhyw gynrychioliadau oddi wrth Lywodraeth y DU ar orchmynion Seneddol i gynyddu’r graddau y caiff ynni adnewyddadwy ei gynhyrchu ledled y DU.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru am ddatblygu tyrbinau gwynt fel ffynhonnell o ynni adnewyddadwy yng Nghymru? (WAQ51128)

Jane Davidson: Ynni gwynt yw’r dechnoleg adnewyddadwy fasnachol fwyaf hygyrch a golyga tywydd a daearyddiaeth Cymru ein bod mewn sefyllfa dda i’w defnyddio. Ein polisi yw gosod tyrbinau gwynt lle y byddant yn fwyaf effeithiol.

Mae ardaloedd chwilio strategol TAN 8 yn cynnwys llai na 4% o dirfas Cymru. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wrthi’n prydlesu’r tir y mae’n ei reoli o fewn ardaloedd chwilio strategol TAN 8 ar gyfer datblygiadau ffermydd gwynt o bwys ar sail gystadleuol. Cynigwyd opsiynau ar gyfer y tir hwn (sy’n gyfran fach iawn o ardaloedd coedwigaeth Cymru) i’r datblygwyr ffermydd gwynt a fu’n llwyddiannus yn y broses gynnig a fydd yn golygu cwympo cyn lleied o goed â phosibl. Bydd y cynigion datblygu hyn yn ddarostyngedig i brosesau caniatâd cynllunio arferol a bydd angen cysylltu â’r grid cenedlaethol. Ystyriodd TAN 8 effaith ar dirwedd ac ardaloedd dynodedig a sicrhaodd na châi Parciau Cenedlaethol nac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ymysg ardaloedd eraill, eu cynnwys fel ardaloedd chwilio strategol.

Mae cynigion i godi dwy fferm wynt fawr ar y môr, 750MW ger Abergele a 1,500MW ym Môr Hafren allanol ar y llinell ganol rhwng Cymru a Lloegr ger Ynys Wair: gyda’r potensial i gael mwy yn sgîl cwblhau’r asesiad amgylcheddol strategol o ffermydd gwynt ar y môr yng Nghymru a Lloegr a gafodd ei ddatgan yn ddiweddar.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am sut mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cefnogi prynwyr tai am y tro cyntaf yng Nghymru? (WAQ51158)

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau i roi cymorth i brynwyr am y tro cyntaf gyflawni’r ymrwymiad ym mhapur polisi Llywodraeth y Cynulliad, 'Cymru’n Un’. Mae’r gwaith ar hyn yn datblygu’n dda a byddaf yn gwneud penderfyniad maes o law.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am y meini prawf y mae’n bwriadu eu gosod ar y cynnig i ddarparu grantiau i brynwyr tai am y tro cyntaf yng Nghymru? (WAQ51159)

Jocelyn Davies: Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau i roi cymorth i brynwyr am y tro cyntaf gyflawni’r ymrwymiad ym mhapur polisi Llywodraeth y Cynulliad, 'Cymru’n Un’. Mae’r gwaith ar hyn yn datblygu’n dda a byddaf yn gwneud penderfyniad maes o law.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r grant arfaethedig cyfartalog a roddir i brynwyr tai am y tro cyntaf fel y’i amlinellir yn y polisi yn rhaglen Llywodraeth Cymru’n Un? (WAQ51160)

Jocelyn Davies: Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau i roi cymorth i brynwyr am y tro cyntaf gyflawni’r ymrwymiad ym mhapur polisi Llywodraeth y Cynulliad, 'Cymru’n Un’. Mae’r gwaith ar hyn yn datblygu’n dda a byddaf yn gwneud penderfyniad maes o law.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am faint o ynni a gynhyrchwyd yng Nghymru sy’n deillio o ffynonellau adnewyddadwy bob blwyddyn er 1999? (WAQ51188)

Jane Davidson: Caiff manylion yr ynni a gynhyrchir o adnoddau adnewyddadwy yng Nghymru eu cynnwys yn Energy Trends, cyhoeddiad yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio. Ni chaiff ffigurau cyn 2002 eu cynnwys gan fod newid yn y fethodoleg yn golygu na ellir cymharu ffigurau o’r flwyddyn hon ymlaen â ffigurau’r blynyddoedd blaenorol. Mae faint yr ynni a gynhyrchwyd o adnoddau adnewyddadwy ers 2002 fel a ganlyn:

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Chwefror 2008

2002

783 GWh

2003

787 GWh

2004

1,030 GWh

2005

1,216 GWh

2006

1,409 GWh

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sawl awdurdod lleol yng Nghymru sydd bellach yn casglu sbwriel domestig bob pythefnos? (WAQ51189)

Jane Davidson: Ar hyn o bryd mae wyth awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu gwasanaeth casglu sbwriel domestig bob pythefnos i o leiaf rai o’r cartrefi yn eu hardal. Yr ardaloedd hyn yw Conwy, Sir Ddinbych, Casnewydd, Tor-faen, Wrecsam, Ynys Môn, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin. Mae gwasanaethau tebyg yn cael eu hystyried mewn nifer o ardaloedd eraill.

Mae casglu bob pythefnos yn cynnig gwasanaethau gwell ac amgylcheddol gynaliadwy i drigolion gan fod y gwasanaeth casglu gwastraff dros ben yn rhedeg bob yn ail â’r gwasanaeth casglu gwastraff y gellir ei ailgylchu a’i gompostio. Mae hyn yn annog pobl i ailgylchu mwy o wastraff yn ogystal â helpu i lleihau costau casglu’r awdurdodau lleol sy’n deillio o’r gwasanaethau ychwanegol a ddarperir i gyflawni targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru a thargedau osgoi tirlenwi yr UE. Mae hefyd yn helpu i leihau faint o wastraff dros ben a gaiff ei waredu drwy dirlenwi costus.

Awdurdodau lleol sy’n dewis patrwm y gwasanaethau yn eu hardaloedd ond mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cefnogi cyflwyno casgliadau gwastraff dros ben bob pythefnos, bob yn ail â chasglu gwastraff y gellir ei ailgylchu yn enwedig os yw awdurdodau’n casglu gwastraff y gellir ei ailgylchu a’i gompostio bob wythnos.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae hi’n sicrhau y caiff yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad interim Pitt eu rhaeadru i awdurdodau lleol yng Nghymru? (WAQ51195)

Jane Davidson: Mae’r adroddiad interim yn darparu asesiad cynhwysfawr o ganlyniadau llifogydd yr haf diwethaf, yr ymateb a ddarparwyd ac yn disgrifio’r canlyniadau sy’n deillio o’r ymchwiliadau hynny. Er bod Cymru’n ffodus o fod wedi osgoi tywydd gwaethaf yr haf diwethaf, y mae’r un mor agored i niwed ac mae’r canlyniadau a ddaw i’r amlwg yn yr adroddiad yn berthnasol i Gymru.

Ceir 87 o argymhellion interim yn yr adroddiad, ac mae’r awduron o’r farn y dylid gweithredu ar 15 ohonynt a’u rhoi ar waith ar unwaith. Bydd y Rhaglen Dulliau Newydd a lansiwyd gennyf yr haf diwethaf yn esgor ar fframwaith ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd a’r risg arfordirol yng Nghymru yn effeithiol ac mae canfyddiadau’r adroddiad, ar y cyfan, yn cefnogi’r cyfeiriad a gymerir yng Nghymru drwy’r Rhaglen hon.

Mae’r rhan fwyaf o’r argymhellion yn gofyn am gamau gweithredu gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth gan gynnwys awdurdodau lleol. Mae fy swyddogion yn cydweithio â chynrychiolwyr o Asiantaeth yr Amgylchedd, llywodraeth leol, y gwasanaethau brys a chydweithwyr polisi mewnol i ystyried goblygiadau’r adroddiad, eu harwyddocâd a’r ffordd orau o weithredu yng Nghymru. Mae cynllun gweithredu i roi argymhellion yr adroddiad ar waith yng Nghymru wrthi’n cael ei baratoi a bydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Cânt eu rhoi ar waith drwy’r Fframwaith Cymru Gydnerth.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru nifer yr ymosodiadau ar barafeddygon Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru ac aelodau eraill o staff ambiwlans bob blwyddyn er 1999? (WAQ51139)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Nid oes data ar gael ar gyfer pob blwyddyn ers 1999. Fodd bynnag, gallaf ddweud mai cyfanswm y digwyddiadau treisgar yn erbyn staff Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a gofnodwyd ar gyfer 2003/04, 2005/06 a 2006/07 oedd 179, 285 a 204, yn y drefn honno.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amcan gost darparu nyrs teulu ar gyfer pob ysgol Uwchradd yng Nghymru? (WAQ51140)

Edwina Hart: Datganwyd bod £4.5m o’r gyllideb wedi’i neilltuo i gefnogi’r ymrwymiad hwn. Nid yw’n bosibl darparu manylion y costau hyd nes y cytunir ar y model ar gyfer darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y teulu i blant oedran ysgol.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cost dybiedig cynnal polisi presgripsiynau’r GIG am ddim bob blwyddyn hyd at 2017? (WAQ51141)

Edwina Hart: £29.5miliwn oedd cyfanswm yr arian a neilltuwyd yn 2007-08 i ad-dalu Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) am y gostyngiad graddol yng nghostau taliadau presgripsiwn. Roedd hyn yn seiliedig ar incwm y blynyddoedd cynt. Ymgorfforwyd yr arian hwn i ddyraniad sylfaenol y BILlau ar gyfer Rhagnodi gan Feddygon Teulu.

Ni allwn ond tybio y bydd cost presgripsiynau am ddim yn cynyddu yn unol â’r cynnydd yn nifer y presgripsiynau yn gyffredinol (gan dybio bod canran y bobl sy’n gymwys i gael presgripsiynau am ddim yn aros yn gyson). Y cynnydd yn nifer y presgripsiynau yn 2006-07 (o gymharu â’r flwyddyn flaenorol) oedd 3.76%.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer y llawdriniaethau a ganslwyd mewn ysbytai’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn er 1999? (WAQ51142)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw amcan gost llawdriniaethau a ganslwyd mewn ysbytai GIG yng Nghymru bob blwyddyn er 1999? (WAQ51143)

Edwina Hart: Er i ddata ar lawdriniaethau a ganslwyd gael ei gasglu ers mis Mehefin 2002, yn wreiddiol, ni chyflwynwyd y data gan bob ymddiriedolaeth. Cyflwynwyd y data llawn ers mis Ionawr 2003, ac mae’n cynnwys cansladau gan gleifion, cansladau gan yr ysbyty am resymau clinigol a chansladau gan yr ysbyty am resymau nad ydynt yn rhai clinigol. Mae’r data yn y tabl isod yn rhoi nifer y llawdriniaethau a ganslwyd ym mhob blwyddyn.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 11 Chwefror 2008

Blwyddyn

Nifer y llawdriniaethau a ganslwyd

2003

44,068

2004

38,027

2005

38,372

2006

34,239

2007

34,743

Dylid nodi yr ystyrir bod llawdriniaeth wedi ei chanslo unwaith i’r claf dderbyn hysbysiad llafar neu ysgrifenedig o ddyddiad y llawdriniaeth a’i bod wedyn yn cael ei chanslo. Nid yw pob llawdriniaeth a gaiff ei chanslo yn golygu colli slot yn y theatr. Yn ystod yr un cyfnod, cynhaliwyd dros 1.1 filiwn o lawdriniaethau yn GIG Cymru.

Nid yw’n bosibl amcangyfrif cost canslo llawdriniaethau yn y GIG yng Nghymru.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gostau gweinyddol ei hadran bob blwyddyn er 1999? (WAQ51144)

Edwina Hart: Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol, sy’n rheoli cyllideb y Weinyddiaeth Ganolog ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ysgrifennu atoch mewn ymateb i’r cwestiwn hwn.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am nifer yr apwyntiadau Meddygon Teulu sy’n cael eu canslo bob blwyddyn er 1999? (WAQ51146)

Edwina Hart: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw amcan gost apwyntiadau Meddygon Teulu sy’n cael eu canslo bob blwyddyn er 1999? (WAQ51147)

Edwina Hart: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A oes unrhyw gleifion y GIG yng Nghymru wedi cael y cyffur Sutent ar bresgripsiwn, ac os oes, ym mha Ardal Bwrdd Iechyd Lleol y gwnaethpwyd hyn, ac o dan ba amgylchiadau? (WAQ51191)

Edwina Hart: Mae’r cyffur Sunitinib (Sutent®) wedi cael ei ddosbarthu mewn fferyllfeydd ysbytai i gleifion y GIG ers mis Medi 2006. Mae’r data diweddaraf yn atodedig. Nid oes gennyf fanylion pellach am yr amgylchiadau y cafodd ei ragnodi oddi tanynt.

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal ynghylch darparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyflwyno brechiadau papiloma dynol i ferched yng Nghymru yn 2008? (WAQ51192)

Edwina Hart: Rwyf wedi nodi arian ar gyfer cyflwyno’r rhaglen frechu fesul cam gan ddechrau yn ystod hydref 2008. Mae swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod mewn trafodaethau, ar fy rhan, gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, y GIG ac adrannau iechyd eraill y DU. Mae’r trafodaethau hyn yn seiliedig ar yr argymhellion a gafwyd gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - y grŵp arbenigol annibynnol sy’n cynghori pob un o adrannau iechyd y DU ar bolisi brechu.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal â’r llywodraeth yn San Steffan ynglŷn ag effaith y cynllun i newid i deledu digidol ar Gymru? (WAQ51175)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganran o gartrefi yng Nghymru nad ydynt yn derbyn teledu digidol ar hyn o bryd? (WAQ51176)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion yn San Steffan ynghylch trosglwyddo i ddigidol a chaiff Llywodraeth Cynulliad Cymru ei chynrychioli ar grŵp trosglwyddo i ddigidol llywodraeth y DU.

Mae ffigurau diweddaraf Digital UK yn dangos nad yw 10% o gartrefi yng Nghymru yn cael teledu digidol ar hyn o bryd.