Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Chwefror 2015 i'w hateb ar 11 Chwefror 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llinell amser ar gyfer adeiladu ffordd osgoi y Drenewydd? (WAQ68323)
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y mae hi'n rhagweld y bydd cyfnod adeiladu ffordd osgoi y Drenewydd yn cychwyn? (WAQ68324)
Derbyniwyd ateb ar 9 Chwefror 2015 (WAQ68323-24)
Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): The consultation on draft Orders has finished. I will now consider the responses and decide whether a Public Local Inquiry is required. Construction could start this autumn depending on whether a Public Local Inquiry is required and, if so, the outcome of that Inquiry