Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 11 Mawrth 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian sy'n cael ei wario gan bob awdurdod lleol ar addysg fesul disgybl ysgol gynradd. (WAQ55733)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Rwy'n eich cyfeirio at y tabl isod:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian sy'n cael ei wario gan bob awdurdod lleol ar addysg fesul disgybl ysgol uwchradd. (WAQ55734)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Rwy'n eich cyfeirio at y tabl isod:
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch dyraniad cyllid 2010-11 y Setliad Grant Trafnidiaeth ar 24/2/10, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion cynhwysfawr ynghylch pob cynnig, yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus, gan Gyngor Sir Caerfyrddin. (WAQ55737)
Rhoddwyd
ateb ar 22 Mawrth 2010
Cyflwynodd Cyngor Sir Caerfyrddin dri chais am Arian o'r Gronfa Trafnidiaeth, gyda dau ar gyfer cynllun Ffyrdd Lleol ac un ar gyfer Rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Gellir gweld copïau llawn o'r ceisiadau yn Llyfrgell y Cynulliad.
Ar gyfer y cynlluniau Ffyrdd Lleol, darperir £0.450miliwn a £0.180miliwn yn y drefn honno ar gyfer Ffordd Ddosbarthu Rhydaman a'r A485 sy'n cysylltu Gogledd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, er mwyn galluogi'r Cyngor i barhau i setlo hawliadau Rhan 1 o dan y Ddeddf Iawndal Tir 1973.
Mae'r £0.491 miliwn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn Nafen/Felin-foel yn ei gwneud yn bosibl i waith gael ei wneud o amgylch pedair ysgol ac Ysbyty'r Tywysog Phillip a fydd yn gwella hygyrchedd yn y gymuned.
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog ynghylch dyraniad cyllid 2010-11 y Setliad Grant Trafnidiaeth ar 24/2/10, a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion cynhwysfawr ynghylch pob cynnig, yn llwyddiannus ac yn aflwyddiannus, gan Gyngor Sir Penfro. (WAQ55738)
Rhoddwyd
ateb ar 22 Mawrth 2010
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cyflwyno dau gais ar gyfer rhaglen Llwybrau Diogel yng Nghymuned Cil-moen a Chymuned Wdig. Gellir gweld copïau llawn o'r ceisiadau yn Llyfrgell y Cynulliad.
Mae'r £0.250 miliwn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cynllun Llwybrau Diogel Cil-moen yn galluogi'r Cyngor i benderfynu ar flaenoriaethau'r gwaith sydd angen ei wneud a fydd yn annog pobl i gerdded a beicio mwy yn y gymuned. Mae'r £0.465 miliwn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer eu cynllun yn Wdig yn galluogi'r Cyngor i fynd ymlaen â'r gwaith sydd wedi'i nodi ganddynt fel blaenoriaeth er mwyn gwella mynediad yn y gymuned.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gasgliad Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru nad yw'n cael ei arddangos ar hyn o bryd - fel canran o'r eitemau a nifer yr eitemau, ac o'r nifer hwn, faint o'r casgliad sy'n anghymwys i gael ei arddangos. (WAQ55736)
Rhoddwyd
ateb ar 22 Mawrth 2010
Cyfanswm nifer yr eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos ar hyn o bryd gan Amgueddfa Cymru yw 4,319,485 (94.47%) o'r holl gasgliad. O'r rhain, mae 1,952,545 o'r eitemau yn anghymwys i'w harddangos.
Fel pob amgueddfa arall, mae nifer o ffactorau yn ei hatal rhag arddangos mwy o'r casgliad. Mae tua 250,000 o eitemau'n cael eu harddangos ar hyn o bryd, a byddai'n anymarferol arddangos popeth. Mae llawer o'r casgliadau na fyddai'n effeithiol nac yn atyniadol ond maent yn allweddol i gynnal gwaith ymchwil arloesol. Mae rhai eitemau fel lluniau dyfrlliw sy'n rhy sensitif i olau ac felly ni fyddai'n bosibl eu harddangos am gyfnodau hir.
Mae Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru fodd bynnag yn awyddus i'w gwneud yn haws i bobl weld casgliadau'r Amgueddfa ar gyfer defnydd deallusol.
Rhagor yw cyfleuster darganfod ar-lein yr Amgueddfa sy'n galluogi defnyddwyr i weld gwybodaeth am dros 170,000 o eitemau. Mae'r Amgueddfa hefyd yn rhan o'r gwaith o gyflwyno Casgliad y Bobl, o dan arweiniad fy swyddogion yn CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru. Bydd y wefan arloesol hon, sy'n cael ei lansio'n hwyrach eleni, yn defnyddio casgliadau digidol presennol ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n llyfrgelloedd, gan gynnwys Amgueddfa Cymru.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi £1 miliwn i adnewyddu orielau celf yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Bydd y rhain yn agor yn ystod 2011 ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr, gyda 40% yn fwy o le arddangos. Bydd hefyd yn galluogi ymweliadau gan nifer o arddangosfeydd teithiol mawr, gan godi proffil Caerdydd a Chymru ymhellach.
Mae croeso i chi ymweld â'r Amgueddfa i weld y gwaith diddorol sy'n cael ei wneud tu ôl i'r llenni yno, a datblygiadau cyffrous yr orielau celf.
Gofyn
i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion, ar wahân, (a) nifer y ceisiadau roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu targedu, a (b) nifer y ceisiadau llwyddiannus, ar gyfer cynlluniau amaeth-amgylchedd Tir Cynnal a Tir Gofal ym mhob blwyddyn maent wedi bod ar waith. (WAQ55735)
Rhoddwyd
ateb ar 16 Mawrth 2010
Cafodd pob un o'r cynlluniau amaeth-amgylchedd eu hadolygu yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion newydd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, dal carbon, rheoli dŵr a bioamrywiaeth o dan Adolygiad Echel 2. Ar 5 Mai 2009, cyhoeddais y caiff y cynllun Glastir ei gyflwyno o fis Ionawr 2012, gyda threfniadau trosiannol ar waith hyd at 2014. O ganlyniad i'm cyhoeddiad, nid oes targed mwyach ar gyfer Tir Gofal na Thir Cynnal.
a) Y targed ar gyfer Tir Cynnal o dan y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer 2000-2006 oedd cynnwys 60% o'r tir amaethyddol nas cwmpesir eisoes gan gytundeb amaeth-amgylchedd (neu tua 10,000-12,000 o ffermydd) yng nghynllun Tir Cynnal (ceisiadau llwyddiannus).
Mae'r targed ar gyfer cynlluniau Tir Cynnal o dan Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013 ar sail mesur (h.y. yr holl gynlluniau amaeth-amgylchedd). Y targed yw i 21,173 o ddaliadau fferm gael cymorth o dan y mesur hwn. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd sy'n bodoli eisoes (e.e. Tir Cynnal, Tir Gofal ac Organig) a Glastir.
Mae'r tabl isod yn rhestru nifer y ceisiadau llwyddiannus fesul blwyddyn ar gyfer Tir Cynnal:
Tir Cynnal
Blwyddyn
Ceisiadau Llwyddiannus
2005
3436
2006
602
2007
590
O dan y Cynllun Datblygu Gwledig 2000 - 2006 y targed i'r Cynllun Tir Gofal oedd llofnodi 600 o gytundebau (ceisiadau llwyddiannus) bob blwyddyn hyd at gyfanswm o 4200 o gytundebau.
Mae'r targed ar gyfer cynlluniau Tir Gofal o dan Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013 ar sail mesur (h.y. yr holl gynlluniau amaeth-amgylchedd). Y targed yw i 21,173 o ddaliadau fferm gael cymorth o dan y mesur hwn. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd sy'n bodoli eisoes (e.e. Tir Cynnal, Tir Gofal ac Organig) a Glastir.
Mae'r tabl isod yn rhestru nifer y ceisiadau llwyddiannus fesul blwyddyn ar gyfer Tir Gofal:
Tir Gofal
Blwyddyn
Ceisiadau Llwyddiannus
2000
420
2001
214
2002
567
2003
635
2004
584
2005
486
2006
243
2007 / 2008
215
2008 / 2009
116
<sty sys-itemnumber><sty normal>Mae'r tabl isod yn rhestru nifer y ceisiadau llwyddiannus fesul blwyddyn ar gyfer Tir Cynnal:</sty></sty><table_construct version="1.2" tablestyle="noheader" yw="4" xw="3"><table><row number ="0"><cell number ="0"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal><sty sys-bold>Tir Cynnal</sty></sty></sty>]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal><sty sys-bold>Blwyddyn</sty></sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal><sty sys-bold>Ceisiadau Llwyddiannus</sty></sty></sty>]]></cell></row><row number ="1"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2005</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>3436</sty></sty>]]></cell></row><row number ="2"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2006</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>602</sty></sty>]]></cell></row><row number ="3"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2007</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>590</sty></sty>]]></cell></row></table></table_construct><sty sys-align-justify><sty normal>a) O dan y Cynllun Datblygu Gwledig 2000 - 2006 y targed i'r Cynllun <sty sys-bold>Tir Gofal</sty> oedd llofnodi 600 o gytundebau (ceisiadau llwyddiannus) bob blwyddyn hyd at gyfanswm o 4200 o gytundebau. </sty></sty><sty sys-align-justify><sty normal> Mae'r targed ar gyfer cynlluniau Tir Gofal o dan Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013 ar sail mesur (h.y. yr holl gynlluniau amaeth-amgylchedd). Y targed yw i 21,173 o ddaliadau fferm gael cymorth o dan y mesur hwn. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau amaeth-amgylchedd sy'n bodoli eisoes (e.e. Tir Cynnal, Tir Gofal ac Organig) a Glastir.</sty></sty><sty sys-align-justify><sty normal>b) Mae'r tabl isod yn rhestru nifer y ceisiadau llwyddiannus fesul blwyddyn ar gyfer Tir Gofal:</sty></sty><table_construct version="1.2" tablestyle="noheader" yw="10" xw="3"><table><row number ="0"><cell number ="0"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal><sty sys-bold>Tir Gofal</sty></sty></sty>]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal><sty sys-bold>Blwyddyn</sty></sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal><sty sys-bold>Ceisiadau Llwyddiannus</sty></sty></sty>]]></cell></row><row number ="1"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2000</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>420</sty></sty>]]></cell></row><row number ="2"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2001</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>214</sty></sty>]]></cell></row><row number ="3"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2002</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>567</sty></sty>]]></cell></row><row number ="4"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2003</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>635</sty></sty>]]></cell></row><row number ="5"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2004</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>584</sty></sty>]]></cell></row><row number ="6"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2005</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>486</sty></sty>]]></cell></row><row number ="7"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2006</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>243</sty></sty>]]></cell></row><row number ="8"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2007 / 2008</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>215</sty></sty>]]></cell></row><row number ="9"><cell number ="0"><![CDATA[]]></cell><cell number ="1"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>2008 / 2009</sty></sty>]]></cell><cell number ="2"><![CDATA[<sty sys-align-justify><sty normal>116</sty></sty>]]></cell></row></table></table_construct>