Cyhoeddwyd 06/06/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014
Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 11 Mehefin 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddefnyddio’r weithdrefn newydd i wneud Mesurau Cynulliad. (WAQ50002)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am atebolrwydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. (WAQ50004)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sylwadau y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cyflwyno i’r Adran Masnach a Diwydiant ynghylch gohirio’r profion MOT cyntaf y mae cerbydau yn eu cael am flwyddyn. (WAQ50003)