12/10/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 12 Hydref 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 12 Hydref 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru? (WAQ50454)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Cyfrifoldeb Network Rail yw cynnal a chadw ac adnewyddu’r seilwaith rheilffyrdd yn rheolaidd.

Mae Deddf Rheilffyrdd 2005 yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cynulliad Cymru i ariannu gwelliannau i’r rhwydwaith rheilffyrdd. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo arian ar gyfer gorsafoedd newydd yn Llanharan, Abercynon a Chasnewydd, yn ogystal â gwelliannau i allu a chapasiti’r seilwaith ar linellau Cambrian a’r Cymoedd. Mae Asesiad Cynllunio Rheilffordd Cymru yn nodi’r opsiynau ar gyfer blaenoriaethu buddsoddiad yn y dyfodol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Alun Ffred Jones (Arfon): A yw’r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu argymhellion Adroddiad Bramley am gyllido sector addysg llywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol 2008-2009? (WAQ50434)[W]

Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Cytunwyd ar adroddiad terfynol yr Is-grwp Dosbarthu gan y Fforwm Ymgynghori ar Gyllid yn ei gyfarfod ar 4 Hydref ac ynddo roedd cynnig na ddylid cyflwyno’r argymhellion a wnaed yn Adroddiad Bramley ar gyfer setliad 2008-09. Cynghorwyd ymhellach fod angen ystyried yr argymhellion yn llawnach o fewn rhaglen waith yr Is-grwp Dosbarthu ar gyfer y dyfodol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dull o ddyrannu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer grantiau cyfleusterau i bobl anabl? (WAQ50447)

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Daw adnoddau i awdurdodau lleol ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) o Arian Cyfalaf Cyffredinol (GCF) awdurdodau lleol a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad. Nid yw’r arian wedi’i bridiannu ac mae hyn yn galluogi awdurdodau lleol i dargedu adnoddau yn unol â phwysau a blaenoriaethau lleol.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Alun Ffred Jones (Arfon): A oes bwriad i adolygu’r fformiwla sy’n dosrannu arian i lywodraeth leol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol agos? (WAQ50433) [W]

Trosglwyddwyd i’w ateb yn gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Caiff y fformiwla ariannu ar gyfer y setliad refeniw ei ddatblygu a’i gynnal drwy’r Is-grwp Dosbarthu, is-grwp o’r Cyngor Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru. Mae rhaglen waith yr Is-grwp Dosbarthu ar gyfer setliad 2008-09 bellach wedi’i gwblhau. Roedd yn cynnwys newid data ar gyfer elfen blant y fformiwla gwasanaethau cymdeithasol. Ni chytunwyd ar raglen waith newydd yr Is-grwp Dosbarthu ar gyfer 2008 a 2009 hyd yma. Bydd y broses o baratoi’r rhaglen waith yn cynnwys ystyried pa adolygiadau ychwanegol a allai fod yn briodol ym maes gwasanaethau cymdeithasol.

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A fydd yr adolygiad sydd ar ddod o’r Agenda ar gyfer Newid yn cynnwys gweithrediad y cynllun ar draws Cymru a lefel y cymorth ariannol a roddir i Ymddiriedolaethau’r GIG ar gyfer ei weithredu?(WAQ50451)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Fe’ch cyfeiriaf at fy llythyr dyddiedig 3ydd Hydref.